08 Mawrth 2011
Mae S4C wedi cynnal pythefnos o ddigwyddiadau mewn cymunedau ledled gogledd Ceredigion – ac roedd y cyfan yn llwyddiant ysgubol.
Roedd y gyfres o ddigwyddiadau yng ngogledd Ceredigion yn rhan o ymgyrch Calon Cenedl S4C sy’n pwysleisio bod cymunedau Cymru wrth galon gwasanaethau a rhaglenni S4C.
Meddai Prif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen: “Mae S4C yn cynnal digwyddiadau mewn cymunedau ledled Cymru yn 2011 ac roedd Ceredigion yn lle naturiol i ddechrau ymgyrch ‘Calon Cenedl’. Mae’r sir yn gyfan yn cael sylw rheolaidd mewn amrywiaeth eang o raglenni’r Sianel ac mae ein gwylwyr yn yr ardal yn bwysig iawn i ni.
“Rydym yn falch iawn o’r ymateb a gawsom i’r gyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd dros y pythefnos ac roedd pobl yn werthfawrogol iawn o’n gweithgaredd yn yr ardal. Cawsom ni lawer o sylwadau defnyddiol am ein rhaglenni a’n gwasanaethau, yn enwedig am gynnwys ein gwefan gan blant a phobl ifanc.”
Roedd y digwyddiadau yn cynnwys cystadleuaeth Cân i Gymru ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid nos Sul 6 Mawrth a rowndiau cynderfynol prif gystadleuaeth gorawl Cymru Côr Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth dros benwythnos 4-6 Mawrth.
Dechreuodd y digwyddiadau ddydd Gwener, 18 Chwefror pan gafodd pobl ifanc yr ardal y cyfle i weld sioe feithrin Cyw ym Mhafiliwn Bont.
Nos Iau 24 Chwefror fe ddaeth criw da o bobl ynghyd yng Nghanolfan Edward Richard, Ystrad Meurig i gael rhagflas o un o raglenni Dydd Gŵyl Ddewi S4C, Wyneb Glyndŵr.
Fe wnaeth yr actor a’r cyflwynydd Julian Lewis Jones sôn am ei brofiadau wrth ffilmio’r rhaglenni a oedd yn datgelu gwir wyneb Owain Glyndŵr, yr arwr Cymreig a hawliodd deitl Tywysog Cymru.
Cafodd nifer o gwestiynau eu codi gan y gynulleidfa, a aeth adre yn edrych ymlaen yn awchus at weld y rhaglen gyfan.
Daeth nifer dda ynghyd ar gyfer Noson Gwylwyr S4C yn Nhregaron nos Fercher, 2 Mawrth. Roedd yna drafodaeth fywiog am raglenni S4C a chafwyd cryn hwyl wedyn yn y cwis tafarn. Ffilmiwyd y noson yn nhafarn y Talbot, ac mae modd ei gwylio ar-lein ar s4c.co.uk.
Cynhaliwyd noson i ddysgwyr yng ngwesty Llety Parc, Aberystwyth ddydd Llun 28 Chwefror, tra yng Ngwesty’r Hafod, Pontarfynach nos Wener, 4 Mawrth cynhaliwyd ocsiwn er budd Ysgol Mynach, Pontarfynach gyda’r cymeriad Bili Bom Bom o’r gyfres Pentre Bach yn serennu! Gyda’i gymorth llwyddodd yr ocsiwn i godi bron £5,000 er budd yr ysgol.
Yn ystod y cyfnod, bu cymeriadau o’r gwasanaethau plant Cyw a Stwnsh yn ymweld ag ysgolion yr ardal gan gynnwys Ysgol Gynradd Ffynnon Bedr, Llanbedr Pont Steffan ac Ysgol Gynradd Llanddewi Brefi.
Hefyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, recordiwyd rhaglen o’r gyfres canu mawl Dechrau Canu Dechrau Canmol, y sioe dalent ieuenctid Sawl Seren Sy ‘Na? a chyngerdd gydag Elin Fflur a’r Band.
Diwedd