04 Ebrill 2011
Mae’r holl gorau fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Côr Cymru 2011 ar nos Sul 10 Ebrill nawr wedi eu henwi, sef Côr Hŷn Glanaethwy, côr plant a chôr meibion o Ysgol Gerdd Ceredigion, y côr cymysg Cywair a Cantata o Lanelli.
Heledd Cynwal a Morgan Jones fydd yn cyflwyno holl gyffro’r ffeinal yn fyw ar S4C o Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth am 19:30 nos Sul, 10 Ebrill, gan gyflwyno’r canlyniadau yn hwyrach yn y noson.
Gydag ond dyddiau tan y ffeinal fawreddog, sut mae arweinwyr y corau yn teimlo wrth i’r diwrnod agosáu? Dywedodd Catrin Hughes, arweinydd côr merched Cantata.
“Beth sy'n bwysig i fi yw bod y merched yn mwynhau'r perfformiad, ac yn dod o'r llwyfan wedi rhoi o'u gorau glas. Mae Côr Cymru yn sicr yn rhoi llwyfan arbennig i ganu corawl yng Nghymru, ac mae'r profiadau mae'r corau yn eu derbyn yn sefyll yn y cof am flynyddoedd.”
Cefin Roberts sy’n arwain Côr Hŷn Glanaethwy ac mae yntau am i’w gôr fwynhau ar y llwyfan. “Dwi’n annog y côr i anghofio am y gystadleuaeth ac i fwynhau fel petawn ni’n perfformio mewn cyngerdd. Ysgol Berfformio yw Glanaethwy wedi’r cyfan, ac ryden ni am wneud beth yden ni’n ei wneud orau – sef adlonni!”
Islwyn Evans yw arweinydd y ddau gôr o Ysgol Gerdd Ceredigion a’r côr cymysg Cywair. Mae Islwyn wedi profi llwyddiant mawr yn y gystadleuaeth yn y gorffennol, ond gyda sawl côr o dan ei ofal yn cystadlu am y wobr, a oes tyndra rhwng yr aelodau gefn llwyfan?
"A dweud y gwir, mae elfen gystadleuol eithaf iach rhwng y corau. Maen nhw’n licio tynnu coes ei gilydd ond ar ddiwedd y dydd maen nhw’n falch ta pwy sy’n ennill," meddai Islwyn Evans. "Yr ethos rwy’n trio ei ddysgu iddyn nhw yw mai gwneud eich gorau sy’n bwysig, ac ein bod ni’n mwynhau."
Mae’r noson yn uchafbwynt wythnosau a misoedd o ymarfer a pherffeithio i’r corau. Ond, ar ôl mwynhau’r cystadlu rhagorol yn y rowndiau cynderfynol, bydd rhai yn dadlau mai’r beirniaid sy’n wynebu’r dasg anoddaf oll!
"Mae dewis y corau terfynol ym mhob categori wedi bod yn dasg anodd iawn," meddai un o’r beirniaid Stephen Connolly, cyn aelod o’r grŵp poblogaidd The King’s Singers." Byddwn i wedi gallu gwrando ar bob côr am ddwy awr gyfan, yn lle’r chwarter awr roedd bob un yn ei chael."
Y ddau feirniad arall ar y panel eleni yw Denes Szabo, arweinydd tri o gorau mwyaf llwyddiannus Hwngari, a’r arweinydd byd enwog o’r Eidal, Carlo Rizzi. Gyda safonau mor uchel yn y rowndiau cynderfynol, mae’r disgwyliadau’n uchel ar gyfer y rownd derfynol. Yn ôl Stephen Connolly mae'n disgwyl gweld nifer o rinweddau yn y côr buddugol.
"Mae’n rhaid iddyn nhw ateb nifer o ofynion. Mae’n rhaid iddyn nhw gael cydbwysedd a dangos emosiwn gan gredu yn yr hyn maen nhw’n ei ganu. Mae’n rhaid iddyn nhw gael llinell dda, a chanu’n egnïol. Mae’n rhaid iddyn nhw anadlu gyda'i gilydd a chyflwyno pecyn llawn egni os ydyn nhw’n canu mewn arddull ysgafn neu uchel."
Ond, nid y beirniaid fydd yr unig rai i gael cyfle i leisio eu barn. Eleni, bydd cyfle i’r gwylwyr ddewis eu hoff gôr drwy bleidlais ffôn ar y noson, gyda’r ffefryn yn ennill tlws y gwylwyr. Bydd Heledd Cynwal yn cyhoeddi manylion y rhifau ffôn yn fyw ar y rhaglen a bydd y llinellau yn agor yn dilyn y perfformiad olaf.
Bydd rhaglen arbennig ar nos Wener 8 Ebrill am 20:25 yn rhoi cyfle i ni ail-fyw perfformiadau’r corau yn y rowndiau cynderfynol, wrth i ni edrych ymlaen ar y ffeinal nos Sul. Bydd y rhaglen fyw yn dechrau am 19:30 nos Sul 10 Ebrill, gyda’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y noson.
Diwedd