Mae ffilm hyrwyddo hynod wreiddiol sy’n dangos dyfarnwyr criced yn perfformio’r Haka wedi llwyddo i ennill trydedd wobr fawr.
Cipiodd S4C ei gwobr ddiweddaraf yn y categori Ymgyrch Farchnata Orau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, sydd yn cael ei chynnal yn Stornoway ar Ynys Lewis, Yr Alban.
Cafodd y promo ei ffilmio i hyrwyddo darllediadau’r Sianel o gemau criced a rygbi yn ystod haf 2010. Yn y promo, mae’r ddwy gamp yn cyfuno gyda’r dyfarnwyr yn ail greu’r Haka gan ddefnyddio arwyddion criced adnabyddus.
Yna, maen nhw’n pryfocio a herio rhai o chwaraewyr mwyaf adnabyddus tîm rygbi Cymru, gan gynnwys Alun-Wyn Jones a Jamie Roberts.
Mae’r llwyddiant yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn golygu coron driphlyg o wobrau i’r promo.
Daeth y Sianel i’r brig trwy ennill gwobr fawr o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon yng Ngwobrau Georges Bertellotti Golden Podium ym Monaco.
Enillodd yr ymgyrch farchnata hefyd y Wobr Aur yng nghategori’r Trel Chwaraeon Gorau yng Ngwobrau Promax UK 2010. Mae Promax UK yn gwobrwyo’r gorau yn niwydiant marchnata a hyrwyddo teledu o fewn y Deyrnas Unedig.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?