Mae’r gantores fentrus Shân Cothi yn ei seithfed nef ar ôl iddi hi a’r ceffyl Langley ddisgleirio yn ras elusennol y St Patrick’s Day Derby yng ngŵyl rasio Cheltenham.
Roedd deuddeg yn cystadlu yn y ras, ac fe ddaeth Shân yn seithfed, gyda dim ond 5.81 eiliad yn ei gwahanu hi â’r joci buddugol, Tina Cook a’i cheffyl Pascha Bere.
Bu’r gantores soprano, actores a chyflwynwraig yn hyfforddi’n galed am wythnosau maith o dan lygad barcud yr hyfforddwr Tim Vaughan yn Y Bont-faen.
“Roedd yn ddiwrnod i’w gofio ac yn sicr yn un o uchafbwyntiau fy mywyd. Roeddwn yn byw breuddwyd bob joci wrth rasio yn Cheltenham, a dwi’n teimlo mor falch bo’ fi wedi rasio mewn steil ac wedi chwifio’r faner dros Gymru.
“Ar fy rhan i a’r elusen Cancer Research UK, hoffwn ddiolch i bawb am fod mor gefnogol - ac wrth gwrs diolch i dîm Tim Vaughan ac, yn enwedig, Langley!"
Rasio yn rasys Cheltenham oedd un o sialensiau mwyaf bywyd Shân, ac yn ail ran y gyfres Cheltenham Cothi ar S4C, nos Sul am 8:30pm, cawn ail-fyw’r ras a darganfod ei theimladau hi cyn ac ar ôl iddi fentro i rasio ar ei cheffyl.
Mae’r ras yn Cheltenham dros filltir a hanner o hyd ac er ei bod hi wedi rasio ceffylau yn Royal Ascot ac yn Ffos-las o’r blaen, dywed Shân ei bod wedi gorfod gweithio’n galetach nag erioed o’r blaen gyda chymaint yn y fantol.
Bwriad y ras oedd codi arian at Cancer Research UK. Mae Shân eisoes wedi codi dros
£140,000 tuag at ymladd cancr trwy ei helusen ei hun, Amser Justin Time - Elusen Cancr Pancreas Cymru.
Fe gollodd Shân ei gŵr Justin i’r afiechyd yn 2007 ac ers hynny mae hi wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am y clefyd yn ogystal â chodi arian i ddarparu gofal i 'r rheiny sy’n dioddef ohono.