Mae’r ddrama am yr actor byd enwog Richard Burton wedi derbyn un o anrhydeddau mwyaf yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
Fe dderbyniodd Burton: Y Gyfrinach?, a gynhyrchwyd gan Greenbay Media, Wobr y Rheithgor mewn seremoni ar nos Wener 20 Ebrill.
Mae’r anrhydedd yn gwobrwyo gwaith cynhyrchu, cyfarwyddo, technegol neu grefft rhagorol.
Roedd safon y cynhyrchiad, y cynllunio a’r cyfarwyddo wedi gwneud argraff ar y beirniaid a ddywedodd bod y cyfan wedi cyfuno’n wych gyda’r naratif i greu ffilm gelfydd.
Dywedodd y cyfarwyddwr Dylan Richards, “Mae’n anrhydedd derbyn y wobr yma yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae’r diolch i’r tîm cyfan a wnaeth weithio mor galed i gynhyrchu’r ffilm. Mae hynny’n cynnwys y criw a’r actorion.
“Mae’r ddrama yn ffrwyth llafur cariad a heb eu hangerdd a’u hymroddiad ni fyddai’r gwaith wedi bod yn bosib.
“Roedd yn gynhyrchiad heriol ac uchelgeisiol ac mae angen hynny weithiau er mwyn sefyll allan.”
Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Llongyfarchiadau i bawb oedd ynghlwm â’r cynhyrchiad hwn.
“Roedd Burton: Y Gyfrinach? yn un o uchafbwyntiau amserlen S4C dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac mae’r cynhyrchiad crefftus yn llawn haeddu’r clod arbennig.”
Mae’r ffilm yn codi cwestiynau newydd am berthynas Richard Burton a’i frawd hŷn Ifor Jenkins. Richard Harrington sy’n cymryd rôl yr actor byd enwog gyda Dafydd Hywel yn chwarae rhan y brawd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?