11 Gorffennaf 2012
Mae rhaglen mesurau effeithlonrwydd S4C yn symud ymlaen yn gadarnhaol ac maent ar eu ffordd i gyrraedd y nod, yn ôl Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wrth i’r Sianel gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol 2011 heddiw.
Dywedodd Huw Jones bod y strategaeth a roddwyd ar waith yn 2010, eisoes wedi arwain at arbedion o £2.5m – swm fydd yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth rhaglenni gan sicrhau gwerth am arian i’r gwylwyr.
Yn 2010, sefydlwyd rhaglen o fesurau effeithlonrwydd a gostyngiadau penodol mewn gwasanaethau gan yr Awdurdod er mwyn buddsoddi gymaint â phosib yn flynyddol yng nghynnwys S4C. Gofynnwyd i reolwyr S4C wneud adolygiad manwl o weithgareddau S4C, i ail-strwythuro gweithrediadau’r Sianel ac i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posib yng nghynnwys y Sianel drwy wneud arbedion effeithlonrwydd yng nghostau mewnol S4C.
Amcangyfrifir mai’r isafswm i’w fuddsoddi yng nghynnwys S4C o symud ymlaen fydd £65m gydag unrhyw arbedion effeithlonrwydd i’w buddsodd yn y gyllideb cynnwys. Mae hyn yn ostyngiad o 19% o’i gymharu â’r ffigwr yn 2010. Mae’r Awdurdod felly’n disgwyl gweld S4C yn gwneud arbedion effeithlonrwydd o dros 20% rhwng 2010 a 2014, a bod yr arian a ryddhawyd o ganlyniad i’r mesurau yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol yn rhaglenni a gwasanaethau S4C i wylwyr.
“Hyd yma mae’r mesurau wedi creu dros £2.5m o arbedion a disgwylir arbedion pellach yn y flwyddyn hon,” meddai Huw Jones.
Fel rhan o’r mesurau effeithlonrwydd, bydd gwasanaeth manylder uwch S4C - Clirlun - yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn. Cyhoeddodd y Sianel heddiw bod cost uchel Clirlun – tua £1.5m y flwyddyn – wedi ei gwneud hi’n anorfod dod â’r gwasanaeth i ben. Hefyd, mae Awdurdod S4C wedi nodi nad yw Clirlun yn cynnig gwerth am arian i gynulleidfa S4C yn yr hinsawdd bresennol.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r penderfyniad yn dod yn sgil y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb gyhoeddus. Does dim modd osgoi penderfyniadau o’r fath sy’n anochel oherwydd gostyngiad o 36% mewn termau real yn ein cyllideb. Mae’n bwysig ein bod yn buddsoddi mwyafrif y gyllideb sydd gennym mewn cynnwys er mwyn sicrhau gwerth am arian a chynnig yr arlwy gorau i’n gwylwyr.
“Rydym yn gobeithio y bydd modd ystyried gwahanol opsiynau i ddefnyddio manylder uwch ar sawl platfform digidol yn y dyfodol.”
Mae S4C wedi gweld toriad yn eu cyllideb gyhoeddus o £101.6m yn 2010 i £83m yn 2012 fel rhan o Adolygiad Cynhwysfawr Gwariant y Llywodraeth.
Yn ei gyflwyniad i’r Adroddiad, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, “Rwy’n hyderus y gall y sawl sy’n pryderu am ddyfodol teledu yn yr iaith Gymraeg edrych ymlaen gyda chryn dipyn mwy o hyder na blwyddyn yn ôl, er bod yr her o ddygymod a chyllid llawer is, yn parhau’n un sylweddol.”
Wrth gyfeirio at y cytundeb newydd rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC, dywedodd Huw Jones fod trafodaethau estynedig a chynhwysfawr wedi eu cynnal rhwng y ddau ddarlledwr ynglŷn â’r trefniadau cyllido ac atebolrwydd fydd yn cael eu mabwysiadu o 2013 ymlaen. “Rwy’n credu y bydd y Cytundeb Gweithredol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C yn darparu sicrwydd pellach bod dyfodol S4C, a’i allu i weithredu yn annibynnol, wedi cael eu sicrhau, tra’n darparu dulliau priodol o fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am y defnydd a wneir o arian y drwydded deledu,” meddai. Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r Cytundeb Gweithredol yn cael ei gynnal yn fuan.
Er bydd S4C yn cael ei ariannu yn bennaf o ffi’r drwydded o 2013-14 ymlaen, mae’r Cadeirydd, yn ei gyflwyniad, yn galw am sicrwydd o barhad cyfraniad ariannol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fan lleiaf drwodd i 2017.
“Un mater o bwysigrwydd mawr yr ydym wedi ei godi gyda’r Llywodraeth yw’r ffaith ein bod wedi gorfod, wrth ddod i gytundeb gyda’r BBC, gymryd yn ganiataol y bydd y cyllid y byddwn yn parhau i’w dderbyn gan y DCMS yn 2013-14 a 2014-15 - tua £7miliwn y flwyddyn - yn parhau i gael ei dalu i ni, fan lleiaf ar y lefel yma, drwodd i 2017. Byddai methiant i sicrhau parhad y cyllid hwnnw yn gadael S4C mewn cyflwr gwirioneddol ddyrys gan y bydd y lefel newydd o ariannu erbyn 2015 eisoes ryw 36% yn is na’r hyn a fyddai wedi bod o dan y fformiwla flaenorol,” meddai Huw Jones. Ychwanegodd: “Er bod gennym hyder yng ngwerth ein partneriaeth newydd gyda’r BBC, ac o’r amcanion gwasanaeth cyhoeddus rydym yn ei rhannu gydag Ymddiriedolaeth y BBC, y mae’n bwysig glynu at yr egwyddor fod yna gyfrifoldeb seneddol i sicrhau darpariaeth yr unig wasanaeth teledu Cymraeg sydd gennym.”
Gellir lawrlwytho copi o’r adroddiad o: http://www.s4c.co.uk/adroddiadblynyddol2011