12 Gorffennaf 2012
Mae enwau'r deg ffermwr dewr fydd yn cystadlu am deitl Fferm Ffactor 2012 wedi cael eu cyhoeddi.
Carwyn James o Grymych, Sir Benfro, yw’r cystadleuydd ieuenga’ eleni yn 19 mlwydd oed, ac mae Geraint Jenkins, 24, ffermwr ifanc o Dalybont, Aberystwyth, yn edrych ymlaen at gael ychydig o hwyl ar y gyfres.
Dyma'r eildro i Rhodri Evans o'r Parc, Y Bala, gynnig am deitl Fferm Ffactor. Fe lwyddodd Rhodri i gyrraedd y rhestr fer y llynedd, ond yn dilyn her yn y Sioe Frenhinol cafodd ei anfon adref cyn dechrau'r gyfres.
Anna Jones o Eglwyswrw, Sir Benfro, yw'r ferch gyntaf i gyrraedd y deg olaf eleni, ac yn ymuno â hi mae Caryl Hughes o Llanarmon Dyffryn Ceiriog ger Llangollen.
Bydd dau ffermwr yn cynrhychioli Sir Fôn yn y gystadleuaeth sef Dilwyn Owen o Llanedwen ac Eilir Pritchard o Gerrigceinwen. Dau arall o'r gogledd yw Gethin Owen o Fetws yn Rhos, Conwy a Robin Williams o Dudweiliog, Pen Llŷn.
Ac yn olaf mae Wyn Jones o Hendy-Gwyn-ar-Daf, Sir Gâr, ac ef hefyd yw'r cystadleuydd talaf - 6'5"!
Bydd y gyfres newydd o Fferm Ffactor ar y sgrin yn yr hydref. Ond cyn hynny, bydd cyfle i ymwelwyr ar faes Y Sioe Frenhinol gwrdd â'r deg a gweld rhai yn cystadlu mewn her ychwanegol.
Yn y Cylch Gwartheg ar brynhawn Mawrth 24 Gorffennaf (5.00pm), bydd tri yn cael eu dewis i gystadlu mewn her beic modur bedair olwyn gyda chyfle i ennill beic fferm ATV gwerth £7,800 yn rhodd gan Honda.
Dywedodd Non Griffith o Cwmni Da, cynhyrchydd y gyfres i S4C, "Bu ymateb gwych gan ymgeiswyr eto eleni ac ar ôl y dasg anodd o ddewis y deg i gystadlu yn y gyfres rydym nawr yn edrych ymlaen at weld pob un yn mynd i'r afael â her Fferm Ffactor.
"Mae'r digwyddiad ar faes Y Sioe yn gyfle i wylwyr gwrdd â'r cystadleuwyr am y tro cyntaf, ac yn gyfle i rai ohonyn nhw ddangos eu sgiliau. Mae'n flas o'r hyn sydd i ddod yn y gyfres ym mis Hydref, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Honda am gyfrannu'r wobr i'r dasg gyntaf yma."
Bydd y gyfres yn dychweld i'r sgrin ym mis Hydref. Bob wythnos bydd y deg cystadleuydd yn wynebu cyfres o heriau amaethyddol i brofi eu sgiliau i'r eithaf. Yn gwylio'r cyfan gyda llygad barcud bydd y beirniaid - yr Athro Wynne Jones a cyn enillydd y gyfres Aled Rees.
Un wrth un, bydd y cystadleuwyr gwanaf yn cael eu hanfon adref gan adael dim ond un i hawlio teitl Ffarmwr Gorau Cymru 2012 a'r wobr fawr – cerbyd Isuzu D-Max Yukon 4x4 pick-up.
Y llynedd fe aeth y wobr i ogledd Cymru am y tro cyntaf wrth i Malcolm Davies yrru ei 4x4 Isuzu Rodeo Denver adref i Ddinas, ger Pwllheli.
Mae mwy o wybodaeth am bob un o'r cystadleuwyr ar y wefan - s4c.co.uk/ffermffactor
Diwedd