Ar ôl lansio’r ap tywydd mwyaf blaenllaw ym Mhrydain ar gyfer yr iPhone llynedd, mae S4C a Tinopolis wedi datblygu fersiwn newydd i ddefnyddio ar ffonau Android.
Bydd modd i ddefnyddwyr yr Android lawrlwytho’r ap dwyieithog yn rhad ac am ddim gan fwynhau’r gwasanaeth arloesol sy’n estyniad o’r arlwy teledu.
Mae’r ap yn defnyddio grid rhagolygon 1 cilomedr. Mae’r data yna’n galluogi fod defnyddwyr yr ap yn derbyn rhagolygon tywydd manwl ar gyfer yr union le maent ynddo yn hytrach na rhagolygon ar gyfartaledd neu o orsaf tywydd pell.
Yn ogystal, mae ap Tywydd S4C yn darparu rhagolygon eich ardal neu unrhyw fan arall yn y byd am y 15 diwrnod nesaf.
Meddai Mari Grug, un o gyflwynwyr bwletinau tywydd S4C, “Fel y tywydd yma yng Nghymru, mae’r gwasanaeth rydym yn cynnig i’r gwylwyr yn newid ac yn datblygu’n gyson. Mae’n wasanaeth personol iawn gyda’r ap yn cofnodi'r tywydd yn eich lleoliad unigryw chi. Yn sicr mae’n gam arloesol cael arf fel hyn yn eich poced fydd yn caniatáu i chi wybod pa dywydd ddaw ar gyfer pob awr o’r dydd!”
Fe fydd S4C hefyd yn lansio newidiadau i’r wefan tywydd – s4c.co.uk/tywydd – gan ei wneud yn haws i’r defnyddiwr i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ar gael iddynt.
Yn ychwanegol i’r arlwy presennol fydd system adnabod cyfeiriad IP. Bydd y dudalen yn adnabod lleoliad y teclyn neu ddyfais ddigidol ac yn llwytho’r tywydd yn gywir at 1km ar gyfer y lleoliad hwnnw.
Gallwch hefyd adael eich sylwadau neu gofnod arbennig o’r tywydd drwy gysylltu â tywydd@s4c.co.uk a fydd yn ymddangos ar y dudalen ‘Cofnodion y Gwylwyr’.
I’r rheini ohonoch fydd yn mynychu digwyddiadau’r haf yng Nghymru, bydd modd paratoi am y tywydd o flaen llaw gyda linc newydd ar y wefan.
Cwmni rhagolygon tywydd Weather Central, wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau, sydd yn trwyddedu gwasanaeth tywydd arloesol S4C. Nhw yw’r unig gwmni sy’n cynnig rhagolygon tywydd 1 cilomedr yn y byd ac S4C yw’r darlledwr cyntaf yn y DU i’w ddarlledu.
Fe fydd tîm cyflwyno’r tywydd ar S4C yn darlledu bwletinau yn fyw o faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd gydol yr wythnos.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?