Mae S4C wedi cyhoeddi bod y Gronfa Ddigidol, sydd wedi cael ei sefydlu gan is-gwmni’r sianel, S4C Digital Media Ltd i hyrwyddo datblygiadau yn y meysydd aml-lwyfan a chyfryngau digidol, bellach ar waith.
Cyhoeddwyd manylion y gronfa, sy’n werth £1m y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg heddiw.
Nod y gronfa yw cefnogi cynnyrch a gwasanaethau creadigol newydd ar draws llwyfannau, dyfeisiadau a sianeli digidol, gyda’r amcan o gyfoethogi darpariaeth S4C i’r gwylwyr a chodi arian masnachol.
Meddai Elin Morris, Cyfarwyddydd Polisi Masnachol a Chorfforaethol S4C, “Diben S4C yw
darparu gwasanaeth teledu amrywiol o ansawdd uchel ond mae’n rhaid i’r cyfryngau digidol fod yn rhan annatod o bob dim yr ydym yn ei wneud.
“Rhaid sicrhau ein bod ar gael ar draws llwyfannau digidol, a thrwy hynny gyfoethogi ein gwasanaeth gyda chynnwys digidol, cryfhau’r cyswllt gyda’n gwylwyr a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd trwy gyfryngau digidol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y Gronfa Ddigidol yn hwb bellach i alluogi ein cyflenwyr cynnwys i’n helpu ni i wireddu ein huchelgais o safbwynt cynhyrchu cynnwys digidol.”
Cafodd y gronfa ei sefydlu gydag arian masnachol a bydd yn anelu at fuddsoddi mewn prosiectau â photensial masnachol pan fo hynny’n briodol ac yn bosibl. Fodd bynnag, bydd gan y gronfa bortffolio cymysg o brosiectau - rhai â photensial masnachol a rhai sydd â gwerth cyhoeddus sy’n cyfrannu at wireddu strategaeth ddigidol S4C. Y disgwyl yw y bydd o leiaf 50% o’r arian sydd ar gael i’w fuddsoddi yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau â photensial masnachol.