07 Awst 2012
Fe fydd S4C yn darlledu tair ffilm dogfen yn portreadu tri o gymeriadau amlycaf Cymru yn ystod y misoedd nesaf.
Wrth ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw, datgelwyd y bydd un o’r rhaglenni dogfen yn bortread dadlennol o’r diweddar Gary Speed gan ei ffrind agos, y cyn-beldroediwr a’r sylwebydd chwaraeon John Hartson.
Mae S4C hefyd wedi comisiynu ffilm bortread o’r llenor athrylithgar ac enigmatig Gerallt Lloyd Owen.
Ac yn ogystal bydd y Sianel yn darlledu ffilm ddogfen afaelgar y canwr Gruff Rhys am y Wladfa ym Mhatagonia, Separado! Mae Gruff Rhys ar hyn o bryd yn America yn ffilmio dilyniant i'r ffilm ddogfen. Mae S4C yn un o'r cyrff sydd yn ariannu'r dilyniant.
Mae’r rhaglenni am Gary Speed a Gerallt Lloyd Owen ymhlith comisiynau cyntaf y Comisiynydd Cynnwys newydd, Llion Iwan, sy’n gyfrifol yn bennaf am gomisiynau ffeithiol a materion cyfoes S4C.
Y ffilm ddogfen am ddiweddar reolwr a chapten Cymru, Gary Speed, fydd y portread teledu manwl cyntaf ohono i’w gael ei ddarlledu gyda chydweithrediad llawn y teulu.
Bu farw Gary Speed - a chwaraeodd i Leeds, Everton a Newcastle ymhlith clybiau mawr eraill - o dan amgylchiadau trasediol ym mis Tachwedd y llynedd.
Cynhyrchwyr y rhaglen yw Rondo, y cwmni tu ôl i’r gyfres bêl-droed boblogaidd Sgorio, lle mae John Hartson yn sylwebydd a dadansoddwr rheolaidd.
Meddai Llion Iwan, “Fe fydd y ffilm ddogfen yn bwrw goleuni o’r newydd ar fywyd a gyrfa aruthrol Gary Speed. Mae’n torri tir newydd gan y bydd teulu’r pêl-droediwr eiconig a rhai o’i ffrindiau agosa’ yn cyfrannu. Mae hefyd yn gyfle i edrych ar ei gyfraniad i bêl-droed, Cymru a’r byd o safbwynt unigryw ei gyd-chwaraewr John Hartson, a fydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen am y tro cyntaf erioed.”
Y bwriad yw darlledu’r rhaglen ddogfen am y prifardd a’r Meuryn athrylithgar Gerallt Lloyd Owen ar Ddydd Gŵyl Dewi 2013.
Mae camerâu cwmni cynhyrchu Cwmni Da wedi bod yn dilyn y llenor o Wynedd ers rhai misoedd. Fe fydd y ffilm ddogfen yn bortread dadlennol o ddyn a ystyrir yn ŵr preifat iawn, gan ddarganfod beth sydd wedi ysbrydoli cerddi fel Cilmeri, a ddisgrifir fel rhai o gerddi mwya’r iaith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.
Bydd y premiere teledu o’r ffilm ddogfen Separado! yn un o uchafbwyntiau’r arlwy Nadolig ar S4C.
Mae’r ffilm, a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni ie ie, yn dilyn ymgais canwr y Super Furry Animals Gruff Rhys i gael hyd i’w berthynas bell, y cerddor o Batagonia a'r gaucho Cymraeg lliwgar, René Griffiths.
Mae’r ffilm, a gafodd ei saethu yn bennaf ar leoliad yn Yr Ariannin a’i chyfarwyddo gan Dylan Goch a Gruff Rhys, yn agor ein llygaid i agweddau gwahanol o hanes a bywydau pobl y Wladfa.
Ychwanega Llion Iwan, “Mae’r tair ffilm ddogfen yn ymdrin â chymeriadau a bydoedd gwahanol iawn i’w gilydd. Ond yr hyn sy’n eu huno yw bod y bobl a bortreadir ynddynt wedi gwneud cyfiawnder mawr i ddiwylliant poblogaidd ein bywyd cenedlaethol yng Nghymru.”
Diwedd