14 Awst 2012
Mae Sgorio yn ôl am dymor newydd o gystadlu brwd yn Uwch Gynghrair Cymru – a bydd gêm fyw ar S4C bob prynhawn Sadwrn.
Fe fydd Sgorio yn rhoi sylw i sgoriau a chanlyniadau eraill gweddill gemau UGC a sgoriau diweddaraf Cynghreiriau Lloegr wrth i gyffro’r prynhawn ddatblygu drwy wasanaeth y Sgoriadur.
Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer gemau byw Uwch Gynghrair Cymru i wylwyr di-Gymraeg ar wasanaeth botwm coch Sky a Freeview.
Mae S4C hefyd wedi cyhoeddi noddwr newydd i’r gyfres, ‘Cychwyn Iach Cymru / Fresh Start Wales’, sef ymgyrch y Cynulliad Cenedlaethol i berswadio pobl i roi’r gorau i smygu yn eu ceir.
Port Talbot v Llanelli fydd gêm fyw gyntaf y tymor newydd o bêl-droed ar S4C ar brynhawn Sadwrn, 18 Awst. Bydd Sgorio hefyd yn dychwelyd nos Lun, 20 Awst a Stwnsh: Sgorio i blant yn dechrau nos Fawrth, 21 Awst.
Bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys cyn ymosodwr pêl-droed Cymru, Arsenal a Celtic John Hartson, Morgan Jones, Dylan Ebenezer a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Malcolm Allen a Dai Davies,
Mae John Hartson yn edrych ymlaen at dymor arall gyda thîm Sgorio yn dilyn y gorau o gynghrair Sbaen La Liga, gemau cartre Wrecsam a Chasnewydd yng nghynghrair y Blue Square a gemau byw ac uchafbwyntiau o ymgyrchoedd timau Cymru yng Nghwpan yr FA.
Meddai John: “Mae’n bleser cael bod yn rhan o dîm Sgorio a chael gwylio’r gorau o Uwch Gynghrair Cymru. Rwy’n ffodus o allu siarad Cymraeg ac mae gweithio yn Gymraeg yn bwysig imi.
“Mae safon yn Uwch Gynghrair Cymru wedi gwella’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n credu bod y timau’n fwy cystadleuol, angerdd y chwaraewyr yn amlwg ac mae’r bwlch rhwng y timau’n lleihau bob blwyddyn. Cafodd y cynghrair ei ennill ar ddiwrnod olaf y tymor eleni - a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’n creu cyffro ymysg y ffans a’r chwaraewyr hyd at y chwiban olaf.
“Nid yn unig y mae’r bwlch yn lleihau rhwng y timau, ond mae hefyd yn lleihau rhwng Uwch Gynghrair Cymru a chynghreiriau eraill yn Ewrop. Rydyn ni’n gweld hynny pan mae’r timau o Gymru yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr. Yn ddiweddar roedd Y Seintiau’n anlwcus i beidio a churo Helsingborgs yn y cymal cyntaf – ac fe enillon nhw’r trebl yn Sweden y tymor diwethaf.”
Mae John yn credu mai’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd, yw’r ffefrynnau'r tymor hwn, ar ôl cyflawni’r dwbl y tymor diwethaf.
“Rwy’n credu mai’r Seintiau Newydd yw’r tîm i guro unwaith eto. Y chwaraewr gorau iddyn nhw'r tymor diwetha’ oedd yr ymosodwr Greg Draper o Seland Newydd. Sgoriodd 28 gol yn ystod y tymor ac roedd ei gyfraniad e’n holl bwysig i lwyddiant Y Seintiau Newydd. Fe fydden nhw’n gobeithio cael cyfraniad tebyg eleni eto.
“Ond gallwch chi byth ddiystyru Bangor chwaith. Maen nhw’n uned agos iawn yno. Mae ganddyn nhw reolwr sefydlog yn Neville Powell ac mae’r ymosodwr Les Davies yn effeithiol yn y ffordd mae Bangor yn chwarae. Ond bydd yn rhaid iddyn nhw droi’r cae newydd yn Nantporth yn dipyn o ‘fortress’ os ydyn am lwyddo.”
Gydag Uwch Gynghrair Cymru yn dathlu pen-blwydd go arbennig a’r gyfres Sgorio’n 25 oed eleni, mae Sgorio mewn partneriaeth â’r Cynghrair a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi sefydlu Oriel yr Anfarwolion.
Maen nhw’n annog cefnogwyr i gysylltu er mwyn enwebu’r chwaraewyr sydd wedi disgleirio fwyaf yn Uwch Gynghrair Cymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Caiff enwau’r ugain enw cyntaf yn yr Oriel eu datgelu ar Sgorio yn ystod y tymor.
Sgorio: Port Talbot v Llanelli
Sadwrn 18 Awst 3.00pm, S4C
Sgorio
Nos Lun 20 Awst 10.00pm, S4C
Stwnsh: Sgorio
Dydd Mawrth 21 Awst 5.50pm, S4C
Gwefan: s4c.co.uk
Ar Alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C