07 Medi 2012
Mae rhaglenni S4C wedi derbyn 37 enwebiad ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru 2012, gyda dramâu’r Sianel yn hawlio 19 ohonynt.
Y gyfres ddrama mewn ysgol uwchradd Gwaith/Cartref sydd wedi hawlio'r nifer fwyaf o enwebiadau ar rhestr BAFTA Cymru eleni gyda chwech enwebiad. Yn ogystal ag enwebiad yn y categori Drama Deledu Orau i'r cynhyrchiad gan Fiction Factory, mae'r actores Rhian Morgan, sy'n chwarae rhan yr athrawes Gwen Lloyd, wedi ei henwebu am wobr yr Actores Orau.
Derbyniodd y gyfres hefyd enwebiadau am waith Dylunio Cynhyrchiad (William F. Bryce), Golygu: Ffuglen (Mike Hopkins/ Rhys ap Rhobert), Coluro a Gwallt (Gwenno Penrhyn) a Dylunio Gwisgoedd (Sian Jenkins).
Mae Siwan Jones, awdures y ddrama Alys, wedi ei henwebu am wobr yr Awdur Gorau am y cynhyrchiad gan Teledu Apollo, sy'n dychwelyd i S4C ym mis Tachwedd. Dyma un o bum enwebiad i Alys sydd hefyd yn cynnwys y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen (Gareth Bryn), Cerddoriaeth Wreiddiol (Strange Village), Dylunio Cynhyrchiad (Gerwyn Lloyd) a Ffotograffiaeth a Goleuo (Richard Wyn Hughes).
Mae'r ffilm hir Patagonia, gyda Matthew Rhys, Nia Roberts a Matthew Gravelle yn serennu, hefyd wedi ei henwebu am bum gwobr. Mae'r cyfarwyddwr Marc Evans wedi ei enwebu yn y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen ac mae'r ffilm, a ddarlledwyd ar S4C ar Ddydd Calan 2012, hefyd wedi ei henwebu am y Ffilm Nodwedd/Teledu orau (Rebekah Gilbertson/Flora Fernandez-Marengo).
Daw enwebiadau hefyd yn y categori Golygu: Ffuglen (Mali Evans), Sain (Simon Fraser), a Coluro a Gwallt (Jo Evans).
Roedd y ffilm Burton: Y Gyfrinach?, gan Green Bay, hefyd yn un o uchafbwyntiau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar S4C, ac mae Richard Harrington wedi ei enwebu yn y categori Actor Gorau am ei bortread o'r actor byd enwog Richard Burton.
Mae'r cynhyrchiad hefyd wedi derbyn enwebiad yn y categori Ffilm Nodwedd/Teledu (Dylan Richards/Judith Roberts/John Geraint) a dau enwebiad arall am y Dylunio Gwisgoedd (Dawn Thomas-Mondo) a Ffotograffiaeth a Goleuo (Huw Talfryn Walters).
Cyfres arall sydd wedi derbyn nifer o enwebiadau anrhydeddus yw Ras yn Erbyn Amser, gan P.O.P.1. Roedd y gyfres yn dilyn y gyflwynwraig anturus Lowri Morgan wrth iddi hyfforddi a chystadlu yn y ras eithafol 6633 Ultra yn yr Arctic. Hi oedd yr unig berson i groesi'r llinell derfyn, ac mae hi'n un o ddim ond chwech sydd erioed wedi cwblhau'r gamp.
Mae Lowri ei hun wedi derbyn enwebiad am y Cyflwynydd Gorau ynghyd â'r enwebiad am y Gyfres Ffeithiol orau (Lowri Morgan/Dafydd Rhys). Mae dau enwebiad arall yn y categori Ffotograffiaeth Ffeithiol (Joe Davies) a Golygu: Ffeithiol (Trystan Jones).
Rhaglen arbennig arall sydd wedi ei chynnwys ar y rhestr yw'r deyrnged deimladwy a ddarlledwyd yn dilyn marwolaeth trasig Gary Speed. Cynhyrchwyd Gary Speed: Teyrnged gan gwmni Rondo, y tîm sy'n gyfrifol am y gyfres bêl-droed Sgorio oedd wedi dod i adnabod y seren bêl-droed a rheolwr tîm cenedlaethol Cymru drwy eu gwaith. Roedd y cyflwynwyr John Hartson a Malcolm Allen hefyd yn ffrindiau agos ac wedi chwarae ochr yn ochr ag o yn gwisgo crys Cymru. Mae'r rhaglen wedi ei henwebu yn y categori Rhaglen Chwaraeon (Lowri Pugh-Jones/Dafydd Thomas/Emyr Davies).
Yn y categori Chwaraeon hefyd mae 'Sgota Gyda Julian Lewis Jones gan gwmni Telesgop (Euros Jones Evans).
Mae rhaglenni dogfen ymhlith y rhestr. Maen nhw'n cynnwys Cegin Cofi gan Cwmni Da yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol (Beca Brown); Joe a Ruby, Chwarel, am y Ddogfen Sengl Orau (Sioned Morys); a Llwybr yr Arfordir, Teledu Apollo, am y Ffotograffiaeth Ffeithiol orau (Garry Wakeman).
Roedd y rhaglen arbennig Wyneb Glyndwr, gan gwmni Wild Dream, yn ymgais i ailgreu wyneb yr arwr cenedlaethol Owain Glyndwr gan ddefnyddio tystiolaeth hanesyddol a'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae'r rhaglen wedi ei henwebu am Wobr Gwyn Alf Williams (Sion Hughes/Stuart Clarke) sy'n cydnabod cynhyrchiadau sydd wedi cyfrannu fwyaf tuag at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru.
Yn y maes materion cyfoes, mae dwy raglen a gynhyrchwyd gan BBC Cymru i S4C wedi derbyn enwebiadau. Y gyntaf yw adroddiad arbennig Dewi Llwyd o Efrog Newydd oedd yn nodi deng mlynedd ers ymosodiadau 9/11. Mae Newyddion 9/11 wedi ei henwebu yn y categori Sylw'r Newyddion (Rhian Jardine).
Hefyd mae rhaglen Taro 9 am lofruddiaethau brawd a chwaer yn Sir Benfro yn y 70au yn derbyn enwebiad yn y categori Materion Cyfoes (Ioan Wyn Evans/Geraint Lewis Jones).
Mae hynt a helynt Trefor, y gyrrwr tacsi, hefyd ar y rhestr, gyda Gwlad yr Astra Gwyn, Rondo, yn derbyn enwebiad Wobr Torri Drwodd, a chomedi arall boblogaidd Dim Byd, Cwmni Da, yn ennill enwebiad yn y categori Rhaglen Blant (Barry Jones).
Mae'r rhaglen gerddoriaeth Bandit, Boomerang, a gyflwynwyd gan Huw Evans a Huw Stephens, ar y rhestr gydag enwebiad yn y categori Rhaglen Gerddoriaeth ac Adloniant (Gruffydd Davies).
Ac i gloi mae dau enwebiad yn y categori Dylunio Graffeg. Yn gyntaf i'r rhaglen Newid Byd (Rough Collie) gan y cwmni cynhyrchu Telesgop a'r llall i ymgyrch hyrwyddo Cwpan Rygbi'r Byd S4C (Rough Collie/Tîm Promos S4C).
Llongyfarchiadau hefyd i un o ddisgyblion cyfres cariad@iaith:love4language 2012, yr actor Robert Pugh, un o sêr y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones. Bydd e'n derbyn Tlws Siân Phillips eleni a gyflwynir i Gymro neu Gymraes am gyfraniad arbennig mewn ffilm neu raglen rwydwaith ar y teledu.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Rydym yn falch iawn o dderbyn cymaint o enwebiadau unwaith eto eleni ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru.
"Mae dramâu poblogaidd y Sianel yn amlwg iawn ymhlith y rhestr eleni gyda chydnabyddiaeth nid yn unig i waith yr actorion, awduron a'r cyfarwyddwyr ond i dalentau pellach y tu ôl i'r llenni sy'n cyfrannu cymaint at lwyddiant y cynhyrchiad.
"Mae nifer yr enwebiadau yn gydnabyddiaeth o dalent a gwaith caled cynhyrchwyr rhaglenni'r sector annibynnol ar gyfer S4C."
Cynhelir seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2012 yng Nghanolfan y Mileniwm ar 30 Medi.
Diwedd