Gwasanaeth Cyw S4C yn cael ei enwebu fel Sianel y Flwyddyn
24 Hydref 2012
Mae S4C wedi croesawu’r cyhoeddiad bod gwasanaeth Cyw wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Sianel y Flwyddyn’ yng ngwobrau BAFTA Plant 2012.
Dyma’r trydydd tro mewn pedair blynedd i wasanaeth Cyw gael ei enwebu ar gyfer gwobr yn y seremoni flynyddol sy’n cael ei chynnal yn Llundain ddiwedd Tachwedd.
Yn ôl Comisiynydd Cynnwys (Plant) S4C, Sioned Wyn Roberts, mae’r enwebiad yn gydnabyddiaeth i’r pecyn cynnwys amrywiol sydd ar Cyw i blant Cymru.
"Mae’n braf iawn i Cyw gael ei gydnabod eto fel gwasanaeth sydd ymhlith y goreuon. Y dyddiau yma mae llawer iawn o sianeli a gwasanaethau i blant ar gael ac mae’n anrhydedd i ni gael ein gweld fel un o’r 4 uchaf, yn cystadlu am y brig. 'Da ni wedi bod yno’n gyson dros y blynyddoedd diweddar ac mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith bod ein gwasanaeth yn cael ei gynllunio ofalus i sicrhau ei fod at ddant plant Cymru bob dydd.
"Mae Cyw yn wasanaeth digidol modern sy’n cynnwys y rhaglenni ar deledu, ar ein gwefan ac wrth gwrs apps, er mwyn sicrhau bod modd gweld y cwbl ar ddyfeisiadau symudol. Mae’r cyfan yn ychwanegu at y gwasanaeth y mae S4C yn ei gynnig i blant a theuluoedd.
"Drwy gael ein henwebu ar gyfer gwobrau o’r math yma, dwi’n gobeithio bydd rhagor o bobl yn cael eu denu i wylio’n rhaglenni cyffrous achos ar ddiwedd y dydd, mwynhad y gynulleidfa, sef plant Cymru, sy’n bwysig i ni."