S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C ar gael ledled gwledydd Prydain ar Virgin Media

16 Tachwedd 2012

Mae S4C nawr ar gael ledled y Deyrnas Unedig ar rwydwaith llawn Virgin Media TV.

Mae cwsmeriaid Virgin Media yng Nghymru wedi gallu gwylio S4C ers i’r cwmni cebl gael ei lansio yn 2007 - ond nawr, yn dilyn profion technegol llwyddiannus, mae ar gael ar Sianel 167 i holl gwsmeriaid y rhwydwaith yn y Deyrnas Unedig.

Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C:

“Mae hyn yn newyddion gwych i S4C ac i bawb sydd â diddordeb yn ein cynnwys ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni yn y Gymraeg, gan gynnwys newyddion a materion cyfoes, adloniant a drama, rhaglenni plant llwyddiannus a darllediadau byw o’r byd chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol. Mae 80% o’r hyn yr ydym yn ei ddarlledu yn darparu isdeitlau Saesneg ar gyfer pobl ddi-gymraeg.”

Datgelodd S4C hefyd y bydd y gwasanaethau botwm coch ar gael cyn hir ar rwydwaith Virgin Media.

Eglurodd Elin Morris, ”Y newyddion da i’n cynulleidfaoedd presennol yw y bydd Virgin Media yn cynnig gwasanaethau botwm coch cyn hir. Fe fydd hyn yn cynnwys gwasanaethau ychwanegol fel sylwebaeth Saesneg ar lawer o’n gemau pêl-droed a rygbi.

“Rydym ni yn S4C am sicrhau bod ein rhaglenni a’n gwasanaethau ar gael i gymaint o bobl ag sy’n bosibl fel y gallan nhw fwynhau ein cynnwys gwreiddiol o safon uchel. Rydym am fod ar gymaint o lwyfannau â phosibl drwy gyfrwng cymaint o ddarparwyr â phosibl - felly i ni, mae hyn yn ddatblygiad i’w groesawu.”

Dywedodd Emma Jones, Cyfarwyddwr Caffael Cynnwys Virgin Media:

“Rydym yn falch iawn o allu ymestyn ein darpariaeth o S4C i bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn golygu y gall holl gwsmeriaid Virgin Media TV fwynhau rhaglenni gwych a’r holl arlwy y mae S4C yn ei chynnig. Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r gwasanaethau botwm coch ar y cyd ag S4C a chynnig dimensiwn ychwanegol i’n gwylwyr.”

Mae’r gwasanaethau teledu llawn hefyd ar gael ar Freeview yng Nghymru ac ar Freesat a Sky ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?