Mae'r gyfres boblogaidd Pen Talar bellach ar gael i chi ei mwynhau dro ar ôl tro ar DVD.
Mae Pen Talar, a ddarlledwyd yn hydref 2010, yn dilyn cymeriadau o ddau deulu yng ngorllewin Cymru o’r 1960au cynnar hyd heddiw mewn drama am gredu a charu, cyfeillgarwch a pherthyn.
Gyda Richard Harrington, Ryland Teifi a Mali Harries a llwyth o actorion amlwg eraill yn serennu, mae’r gyfres yn bortread gafaelgar o gwlwm oes rhwng Defi Lewis, ei ffrind gorau Doug Green a’i chwaer Siân Lewis.
Yn gynhyrchiad gan gwmni Fiction Factory, ac wedi ei chreu gan y dramodwyr Sion Eirian ac Ed Thomas, fe dderbyniodd y gyfres 12 enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru.
Yn ôl Nora Ostler o Fiction Factory, bu cryn alw am ryddhau'r gyfres ar DVD, "Mae'r DVD wedi ei greu oherwydd diddordeb y cyhoedd, gyda phobl yn cysylltu gyda'r cwmni drwy e-bost, ar y ffôn, ar Trydar a Facebook er y darllediad cyntaf ar S4C yn holi os oes bwriad rhyddhau'r gyfres ar DVD. O'r diwedd mae e wedi digwydd!
"'Ry ni'n gyffrous iawn bod y gyfres yn mynd i gael ei gweld eto, a bod cymaint o ofyn amdani. Ar y pryd roedd cyffro am y rhaglen ac fe dderbyniodd adborth gwych gan wylwyr ac adolygwyr."
Dywedodd Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, "Roedd Pen Talar yn gyfres boblogaidd iawn yn amserlen S4C wnaeth ysgogi trafod ymhlith y gwylwyr. Mae'r DVD hwn yn esiampl o'r mentrau masnachol all ddeillio o gyfresi poblogaidd fel hon, ac rwy'n siŵr y bydd yn llwyddiant."
Gallwch brynu'r DVD nawr o'ch siopau llyfrau lleol, neu ar safle Amazon, am £30.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?