Cyfle i weld drama-ddogfen Y Bont, cyn ei dangos ar S4C
02 Ebrill 2013
Mae cyfle cyntaf i bobl ardal Aberystwyth weld drama-ddogfen a ffilmiwyd ar strydoedd y dref, cyn iddi gael ei dangos ar S4C.
Ar nos Iau 4 Ebrill am 7.00 yn Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd drama-ddogfen Y Bont yn cael ei dangos am y tro cyntaf.
Mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim, mae croeso i bawb, a does dim angen archebu tocyn.
Ddechrau mis Chwefror roedd cynnwrf ar strydoedd Aberystwyth wrth i Theatr Genedlaethol Cymru lwyfannu drama unigryw oedd yn ail greu diwrnod protest ar Bont Trefechan yn 1963. Dyma oedd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae drama-ddogfen Y Bont wedi ei selio ar ddiwrnod y digwyddiad dramatig, ac yn dilyn stori dau gyn gariad ifanc, Dwynwen a Kye, wrth iddyn nhw ddod at ei gilydd ar strydoedd y dref. Mae’n rhaid i’r ddau wneud penderfyniadau - am gariad ac am iaith.
Bydd Y Bont, sy'n gynhyrchiad gan Green Bay Media mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru, yn cael ei dangos ar S4C ar nos Sul 7 Ebrill am 8.00.
Diwedd
Nodyn yn y dyddiadur:
Dangosiad Y Bont
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Nos Iau 4 Ebrill 7.00
Rhad ac am ddim
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?