Bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C heno i gofio oes a dylanwad Margaret Thatcher - y cyn Brif Weinidog dadleuol a fu farw heddiw.
Am 8.30 heno (nos Lun 8 Ebrill), fe fydd rhaglen lawn yn olrhain hanes arweinydd oedd wedi holi barn y cyhoedd - gyda rhai’n ei haddoli, ac eraill yn dangos casineb tua ati.
Wedi’i chofio fel ‘Y Fenyw Haearn’, fe fydd y rhaglen amdani yn pwyso a mesur cyfraniad y fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog ar Brydain. Streic y glowyr, treth y pen a Rhyfel y Falklands yn rhai o ddigwyddiadau cofiadwy ei chyfnod wrth y llyw.
Diwedd
Nodiadau: O ganlyniad i’r newid yn yr amserlen, fe fydd rhaglen Ffermio yn cael ei symud i 9.30 nos Fercher, 10 Ebrill.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?