19 Ebrill 2013
Mae cyfres newydd yn dechrau ar S4C a fydd yn edrych ar rai hoff weithiau llenyddol pobl Cymru – ac mae gobaith y bydd yn hybu darllen ymysg gwylwyr y Sianel.
Bydd cyfres 6 Nofel yn gofyn i chwe wyneb cyfarwydd ddewis eu hoff nofel nhw, gan drafod beth sydd wedi apelio iddyn nhw am y nofel a pam y dylai pobl fynd ati i'w darllen heddiw.
Mae 6 Nofel yn dechrau nos Sul 21 Ebrill am 8.30 a'r sylwebydd chwaraeon Dylan Ebenezer fydd y cyntaf i ddewis ei hoff nofel.
Yn dilyn Dylan y pum wyneb cyfarwydd arall ar y rhaglen fydd: yr actor o Fethesda John Ogwen; y cyn-Aelod Seneddol o Sir Gaerfyrddin Adam Price; cyn-chwaraewr rygbi Cymru sy’n enedigol o Fangor Robin McBryde; yr actores a'r gyflwynwraig hefyd o Fangor, Ffion Dafis; a'r gyflwynwraig a'r anturiaethwraig o Abertawe, Lowri Morgan i gyd yn estyn y gyfrol sydd wedi ei bodio fwyaf oddi ar y silff lyfra.
Bydd awdur y nofel dan sylw yn ymddangos ar rai o'r rhaglenni, a bydd aelodau clybiau darllen Dyffryn Ogwen, Cofi, Caerfyrddin, Aberystwyth a Phontardawe hefyd yn cymryd rhan.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Rhaglenni ffeithiol S4C:
"Mae dewisiadau'r chwech yn eithaf annisgwyl ar brydiau, a mae'n braf dysgu pethau gwahanol am y bobl adnabyddus hyn trwy'r nofel mae nhw wedi ei dewis.
"Mae darllen yn rhywbeth personol fel arfer ond mae'r gyfres yn dangos bod pobl yn mwynhau trafod nofel mae nhw wir wedi cael blas arni. Gobeithio y bydd y gyfres yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r gwylwyr, ac y bydden nhwythau yn mynd yn ôl at y silff lyfrau."
Meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:
"'Mae cynnyrch llenyddol rhai o brif awduron Cymru wedi bod yn sail i nifer o raglenni a chyfresi gwych ar S4C dros y blynyddoedd. Mae'n braf gweld cyfres newydd, yn awr, yn rhoi sylw teilwng i chwe nofel boblogaidd gan rai o'n hoff awduron a chyfle i wynebau cyfarwydd y sgrin drafod eu hoff lyfrau.
"Bydd hyn yn rhoi cyfle hefyd, gobeithio, i nifer o ddarllenwyr ail-ddarllen ac ail-fwynhau hen ffefrynnau gan bwysleisio'r amrywiaeth o ddeunydd darllen sydd ar gael yn Gymraeg."
Mae gweisg Y Lolfa a Gomer yn ffyddiog y bydd pobl yn awyddus i ddarllen y nofelau hyn ar ôl gweld 6 Nofel ac wedi sicrhau bod copïau ohonynt ar gael, boen hynny ar ffurf clawr meddal neu fel e-lyfr.
Meddai Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa:
“Mae 6 Nofel yn rhoi cyfle gwych i ni edrych nôl ar nofelau arloesol megis Si Hei Lwli a Cyw Haul. Yn sgil y gyfres mae’n bleser gallu ailgyhoeddi’r llyfr Cyw Haul gwreiddiol gyda rhagair gwych gan Dewi Prysor. Bu’r llyfr a’r gyfres yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth o bobl ifanc ac fel dywed Dewi roedd yn ‘rhoi llais i Gymreictod cyfoes... o’r diwedd dyma nofel roc a rôl."
Meddai Meinir James o wasg Gomer:
“Mae’n braf gweld llyfrau’n cael lle teilwng ar S4C. Mae pedair o’r nofelau a drafodir wedi’u cyhoeddi gan Gomer ac mae’r wasg yn ymfalchïo yn hynny. Pleser yw cydweithio fel hyn i hyrwyddo darllen ac ysbrydoli’r gynulleidfa i gydio mewn nofel."
Diwedd
Nodiadau
Manylion am y nofelau dan sylw:
Cyw Haul gan Twm Miall. Cyhoeddwyd gan Y Lolfa. Llyfr clawr meddal ar gael.
Mis o Fehefin gan Eigra Lewis Roberts. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. E-lyfr ar gael.
Neb Ond Ni gan Manon Rhys. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. Clawr meddal ac E-lyfr ar gael.
Ffwrneisiau: Cronicl Blynyddoedd Mebyd gan Gwenallt. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. E-lyfr ar gael.
Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. E-lyfr ar gael.
Si Hei Lwli gan Angharad Tomos. Cyhoeddwyd gan Y Lolfa. Llyfr clawr meddal ar gael.
Gellir prynu'r llyfrau uchod o siop lyfrau leol neu ar wefan gwales.com