Dwy wobr arall i gyfresi S4C yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013
26 Ebrill 2013
Mae rhaglenni S4C wedi ennill dwy wobr Torc Efydd arall ar drydydd diwrnod yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013.
Yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar brynhawn Gwener 26 Ebrill, daeth y ddrama Gwlad yr Astra Gwyn i'r brig yn y categori Pobl Ifanc a'r gyfres Tai Bach y Byd enillodd wobr y Gyfres Ddogfen orau.
Dywedodd Bedwyr Rees o gwmni Rondo, cynhyrchydd Gwlad yr Astra Gwyn, "Rydym ni wedi cael penrhyddid gan S4C i gynnal a diogelu llais gwreiddiol y sioe ac mae hynny wedi bod yn gaffaeliad mawr. Mae'r wobr yn destament i ymdrech a brwdfrydedd y cast a'r criw ac mae diolch mawr yn ddyledus i bob un ohonynt."
Ifor ap Glyn o Cwmni Da yw cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd y gyfres Tai Bach y Byd. Meddai, "Mae'r gyfres yn gyd gynhyrchiad rhwng Cwmni Da yng Nghaernarfon a Western Front yn Dorset, sydd wedi ei hariannu gan S4C, SDML, BBC a'r Commonwealth Broadcast Association. Mae'n deg i grybwyll fod gan y gyfres Gymraeg hon chwaer brosiect yn Saesneg, The Toilet - An Unspoken History, gafodd ei darlledu ar BBC4.
"Er naws digon hwyliog y gyfres roedd hi'n ymdrin â phwnc digon dyrys a difrifol am fod cynifer o bobl yn y byd heb dai bach o unrhyw fath. A da ni'n ddiolchgar i fudiad BRAC ym Mangladesh a agorodd cymaint o ddrysau i ni yn slymiau'r wlad honno ac sydd wrth gwrs yn gwneud gwaith aruthrol i roi tai bach i bobl dlotaf y wlad am y tro cyntaf."
Mae S4C eisoes wedi ennill dwy wobr yn yr ŵyl, gyda chyfres Jonathan: Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad 2012 yn ennill gwobr y categori Adloniant, a Gwaith/Cartref yn ennill gwobr y Gyfres Ddrama orau yn ystod deuddydd cynta'r digwyddiad.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Llongyfarchiadau i gyfres Gwlad yr Astra Gwyn ac i Tai Bach y Byd ar eu llwyddiant yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae'n bleser cael ychwanegu eu gwobrau at y ddwy sydd eisoes wedi eu hennill, mewn gŵyl sydd wedi bod yn llwyddiant i'r Sianel ac yn destament i'r talent o fewn y diwydiannau credigol yng Nghymru."
Bydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013, sy'n cael ei chynnal yn Abertawe rhwng 24 a 26 Ebrill, yn dod i ben heno.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?