07 Mai 2013
Criw Cyw yn y Cnawd – ffefryn plant i ymddangos ym mhob un o ddiwgyddiadau Cenedlaethol yr haf
Ymddangosiadau i blant wedi’u diogelu ar gyfer haf 2013
Bydd cyflwynwyr a chymeriadau Gwasanaeth Cyw S4C yn ymddangos ym mhob un o brif ddigwyddiadau cenedlaethol Cymru'r haf hwn.
Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro, y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych – mi fydd yn haf i’w gofio i blant o bob rhan o Gymru.
Ym mhob un o'r digwyddiadau bydd Cyw yn perfformio’n fyw gyda chyflwynwyr y gwasanaeth a rhai o gymeriadau poblogaidd rhaglenni Cyw fel Dona Direidi, Ben Dant a Dwylo'r Enfys, mewn perfformiadau dyddiol a sesiynau dawnsio a chanu.
Yn ogystal â hyn bydd criw Cyw hefyd yn ymddangos yng ngŵyl Tafwyl yng Nghaerydd, Ngŵyl Gyhoeddi Sir Gar ac yn nigwyddiad Hwyl a Halibalŵ Cymry Llundain.
I’r plant hŷn, bydd ‘na gemau gwirion yng nghwmni Anni, Lois, Tudur ac Owain - cyflwynwyr Stwnsh yn Eisteddfod yr Urdd, yn y Sioe Frenhinol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd.
Meddai Sioned Wyn Roberts, comisiynydd rhaglenni plant S4C:
"Mae plant wrth eu boddau’n gwylio Cyw, mae sioeau Cyw yn yr eisteddfodau yn orlawn bob blwyddyn! Mae'n bwysig i ni felly fod criw Cyw yn ymddangos yn y digwyddiadau cenedlaethol er mwyn i gymaint o blant â phosib gael mwynhau'r sioeau a chwarae, chwerthin a dysgu efo Cyw."
Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C:
"Mae Cyw yn wasanaeth cynhwysfawr sy'n cynnig rhaglenni hwyliog sydd hefyd yn addysgu’r genhedlaeth nesaf ac yn helpu rhieni digymraeg i ddysgu’r iaith gyda’u plant â gwasanaeth @tifiacyw. Ond mae'n bwysig i ni gofio bod y sioeau a'r perfformiadau byw yn rhan fawr o wasanaeth Cyw hefyd ac rydan ni’n ymdrechu i’w cadw er gwaetha’r cyfyngiadau ariannol sydd arnom.
"Mae'r plant yn cyffroi yn lân wrth weld Rapsgaliwn, Dona Direidi a'r cyflwynwyr - mae nhw'n arwyr iddyn nhw. Felly rydan ni'n awyddus i barhau i sicrhau bod criw Cyw yn teithio ledled Cymru ac yn ymddangos yn holl ddigwyddiadau cenedlaethol yr haf."
DIWEDD
Nodiadau:
Ar 6 Mai, dydd Llun Gŵyl y Banc eleni bydd cyflwynwyr a chymeriadau Cyw yn cynnal diwrnod o weithgareddau i blant yn Fferm Folly, Sir Benfro.
Manylion y digwyddiadau cenedlaethol:
Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd, Sir Benfro
Dydd Llun 27 Mai – Dydd Sadwrn 1 Mehefin 2013
Fferm Cilwendeg ger Boncath
Gŵyl Tafwyl
Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2013
Castell Caerdydd
Y Sioe Frenhinol
Dydd Llun 22 – Dydd Iau 25 Gorffennaf 2013
Llanelwedd, Llanfair ym Muallt
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
Dydd Sadwrn 3 Awst – Dydd Sadwrn 10 Awst 2013
Ffordd Eglwys Wen, Dinbych