21 Mehefin 2013
Mae tîm rygbi Cymru Dan 20 wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd am y tro cyntaf – a'u gwrthwynebwyr yn y gêm ola' yw Lloegr. Gwyliwch yr ornest yn fyw ar S4C ar brynhawn Sul, 23 Mehefin, yng nghwmni Sarra Elgan, Lyn Davies, Rhodri Gomer Davies a Ken Owens. Mae'r rhaglen Rygbi: Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013 yn dechrau am 5.15 a'r gic gyntaf am 5.45.
Mae hi'n sicr o fod yn ornest danbaid yn dilyn perfformiadau ardderchog y ddau dîm i guro De Affrica a Seland Newydd yn y rowndiau cynderfynol. Ond Lloegr, mae'n siŵr, yw'r ffefrynnau wedi iddyn nhw guro Cymru yng ngêm ola'r Chwe Gwlad, 15-28, i ennill y Bencampwriaeth. Ai dyma cyfle'r Cymry i dalu'r pwyth yn ôl?
"Roedd Cymru yn siomedig iawn o'u perfformiad yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad, oherwydd tan hynny roedden nhw wedi chwarae yn dda. Roedd hi'n berfformiad gwael ar y diwrnod ac mae'r hyfforddwyr a'r chwaraewyr wedi cydnabod hynny," meddai'r cyn canolwr Rhodri Gomer Davies, fydd yn sylwebu ar y rownd derfynol yn fyw ar S4C. "Ond maen nhw wedi codi i lefel uwch ar gyfer y Bencampwriaeth hon, ac er y bydd e'n dalcen caled yn erbyn enillwyr y Chwe Gwlad, dwi'n credu y gallan nhw fod yn hyderus o'r ffordd maen nhw wedi chwarae'n ddiweddar."
Mae perfformiad Cymru yn y gystadleuaeth i'w ganmol, gyda thair buddugoliaeth yn erbyn Samoa (42-3), Yr Alban (26-21) a'r Ariannin (25-20) yn y rowndiau grŵp. Yna, cafwyd brwydr i'r pen yn y rownd gynderfynol i guro'r Springboks 17-18. Daeth y fuddugoliaeth o drwch blewyn ddwy funud cyn y chwiban ola', gyda chais yr asgellwr Ashley Evans a throsiad gan Sam Davies.
"Roedd hi'n gêm ryfeddol, yn berfformiad anhygoel yn amddiffynnol a doedd dim amser o gwbl i Dde Affrica chwarae rygbi," meddai Rhodri Gomer Davies. "Roedd cyfuniad perfformiadau'r haneri Rhodri Williams a Sam Davies yn wych. Ond un wnaeth ddal fy llygad yn enwedig oedd Jordan Williams fel y chwaraewr mwyaf cyflawn rwy' wedi ei weld ar y lefel yma ers tro. Y ffordd roedd e'n rhedeg ac yn curo dynion, roedd e'n debyg i Shane Williams yn ei anterth ac yn gwneud iddo edrych yn hawdd.
"Gyda bois Cymru yn gwneud yn dda yng ngharfan y Llewod, roedd gweld Cymru yn colli i Japan yn siomedig, ond dwi'n gobeithio nawr bydd teitl byd i'r tîm Dan 20 yn goron ar y tymor," ychwanega Rhodri.
Mae S4C wedi dilyn y tîm Dan 20 gydol y gystadleuaeth, ac mae'r gemau yn erbyn Yr Ariannin a De Affrica ar gael yn llawn ar-lein ar s4c.co.uk/clic. Mae gwefan Rygbi S4C – s4c.co.uk/rygbi – yn cynnwys uchafbwyntiau pob gêm Cymru Dan 20 yn y gystadleuaeth.
Rygbi: Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013
Y rownd derfynol: Cymru v Lloegr
Prynhawn Sul 23 Mehefin 5.15, S4C
Isdeitlau Saesneg