Defaid a Dringo yn cyrraedd y brig mewn dwy ŵyl ffilm ryngwladol
18 Tachwedd 2013
Mae ffilm S4C sy'n dilyn mynyddwr ifanc wrth iddo gyfuno ei yrfa dringo a'i ymdrechion i ennill bywoliaeth yn Eryri wedi ennill dwy wobr ryngwladol.
Mae'r ffilm ddogfen Defaid a Dringo, gan Cwmni Da, yn dilyn Ioan Doyle yn ystod blwyddyn o'i fywyd – sy'n cynnwys ei ymdrechion i barhau â'i yrfa dringo a'i frwydr i sefydlu ei fusnes ei hun gyda'i gariad. Enillodd yng nghategori'r ffilm orau am amgylchedd y mynydd yng ngŵyl ffilm Kendal yng ngogledd Lloegr. Enillodd hefyd yng ngŵyl ffilm Graz yn Awstria yng nghategori Dringo ar Greigiau a Rhew.
"Camp aruthrol Defaid a Dringo yw ei bod yn gweithio ar sawl lefel – mae'n stori gynnes iawn sy'n adrodd stori am ffordd o fyw a'r tensiwn sy'n bodoli rhwng dilyn y freuddwyd a gorfod ennill bywoliaeth. Mae'n sicr yn gweithio ar y lefel honno, ond mae'r gwobrau rhyngwladol hyn yn dangos ei bod hi'n effeithiol ar lefel mwy arbenigol hefyd ac yn apelio at gynulleidfa sy'n wybodus iawn am ddringo a mynydda. Mae'n cynnwys golygfeydd anhygoel a fydd yn aros yn hir yn y cof i'n gwylwyr.
"Hoffwn longyfarch y criw cynhyrchu sydd wedi creu ffilm arbennig iawn sydd bellach yn derbyn y clod rhyngwladol y mae'n ei haeddu. Rhaid dweud hefyd bod personoliaeth arbennig Ioan yn ychwanegu gymaint i'r ffilm, felly llongyfarchiadau mawr iawn iddo fo ar y llwyddiant yma."
Mae'r anrhydeddau'n dod yn ystod wythnos Tro Ni, sef wythnos arbennig ar S4C o raglenni sy'n cael eu cyflwyno a'u cynhyrchu gan bobl ifanc. Bydd Ioan Doyle yn ymddangos ar raglen drafod arbennig o'r enw Ein Barn Ni ar y Sianel nos Sul am 8.00.
Diwedd
Nodiadau:
Gŵyl Ffilm Graz - www.mountainfilm.com
Gŵyl Ffilm Kendal – www.mountainfest.co.uk
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?