S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Comisiynydd Plant Cymru yn galw am well dealltwriaeth i blant sy’n byw gydag alcoholig

30 Tachwedd 2013

Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am well dealltwriaeth i blant Cymraeg sy’n byw gyda alcoholic.

Daw galwad y Comisiynydd ddiwrnod cyn i S4C ddarlledu rhaglen ddogfen bwerus O’r Galon: Yr Hardys - Un Dydd ar y Tro, ar nos Sul 1 Rhagfyr 8.30, sy’n dilyn y cyflwynydd teledu a radio Geraint Hardy, ei dad y darlledwr John Hardy, a’r teulu, wrth iddynt drafod yn agored am y tro cyntaf effaith alcoholiaeth mam Geraint ar y teulu.

Dim ond 6 oed oedd Geraint pan oedd ei fam, Carol, yn dechrau yfed yn drwm.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler:

"Gallwn ni ddim tanbrisio effeithiau camddefnyddio sylweddau ar blant, boed hynny'n alcohol neu gyffuriau. Fe all fod yn ddinistriol i blant sy'n gorfod delio a'r broblem yn dawel fach, yn ddyddiol, o fewn y pedair wal. Mae rhaglenni fel hyn yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth ac mae angen dewrder i siarad am broblemau sy'n aml yn cael eu hystyried yn rhai tabŵ ymhlith teuluoedd.

"Yng Nghymru, mae'r gwasanaethau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi eu heffeithio gan riant sy'n camddefnyddio sylweddau wedi gwella yn sylweddol. Mae Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (GICD) yn wasanaeth unigryw i Gymru ac yn canolbwyntio ar deuluoedd ble mae rhiant yn camddefnyddio sylweddau, i gymryd camau pendant i wella eu bywydau."

Darlledir y rhaglen O’r Galon: Yr Hardys - Un Dydd ar y Tro yn ystod tymor Gwydr Hanner Llawn, tymor o raglenni ar S4C am alcoholiaeth a chyffuriau a'r frwydr i dorri'n rhydd o'u gafael.

Ar y rhaglen mi fydd Geraint, sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn gyflwynydd radio ar Capital FM, yn cofio sut yr oedd yn arfer delio gyda’r broblem ac yntau yn ifanc iawn.

"Roedd mam wedi meddwi bob nos. Bob diwrnod roeddwn i’n mynd i’r ysgol, yn byw bywyd gyda gwên, ac wedyn yn mynd adref ac yn delio gyda’r gyfrinach. Doeddet ti jyst ddim yn dweud wrth neb," meddai Geraint.

"Roedden ni fel robots; roedden ni’n gwybod beth oedd ein job ni. Roedden ni’n gwybod bod rhaid i ni nôl y gin a chuddio’r gin. Roedden ni’n arfer gwagio’r poteli ac yna eu llenwi nhw efo dŵr, achos roedd mam mor feddw roedden ni’n gobeithio na fyddai hi'n sylwi taw dŵr oedd e."

Bu John Hardy, tad y bechgyn, yn rhan allweddol o wellhad Carol ac yn graig i’r plant, ond oherwydd natur ei waith roedd o i ffwrdd lawer o’r amser felly roedd y gwaith o ofalu am eu mam, Carol, yn aml yn nwylo Geraint a’i frawd hyn, Daniel.

"Roedd e bron fel gêm," meddai Geraint. "Roedden ni’n goro cadw fe o fewn walia tŷ ni a chadw mam yn saff. Doeddwn i ddim yn gwybod yn wahanol ar y pryd, ond wrth edrych yn ôl nawr, rwy’n cofio crio yn fy ngwely gymaint o nosweithie. Ro’ ni yn unig, ond ‘o ni jyst yn meddwl taw dyna sut oedd bywyd."

Mae Carol wedi brwydro i ddod yn rhydd o grafangau alcohol ac wedi llwyddo i wneud hynny ers blynyddoedd. Nawr, mae Geraint yn benderfynol o siarad yn agored am ei brofiad, a phrofiad ei deulu, er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y cyflwr, ac yn y gobaith y bydd yn helpu plant eraill sydd mewn sefyllfa debyg heddiw sydd angen cymorth hefyd.

"Mae alcoholiaeth yn salwch, a dylen ni siarad yn fwy agored amdano i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n dioddef, a’u teuluoedd yn cael yr help maen nhw angen," meddai Geraint.

O’r Galon: Yr Hardys - Un Dydd ar y Tro, Dydd Sul 1 Rhagfyr am 8.30pm ar S4C

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?