Mae S4C wedi dangos ei chefnogaeth i rygbi Cymru ar bob lefel unwaith yn rhagor – y tro hwn trwy ddarlledu dwy o gemau cartre tîm Cymru Dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014.
Cafodd cynlluniau darlledu’r Sianel eu cadarnhau heddiw (4 Rhagfyr 2013) wrth i Undeb Rygbi Cymru ddatgelu pryd y bydd y gemau yn cael eu cynnal ym Mharc Eirias. Bae Colwyn.
Bydd S4C yn darlledu gêm Cymru v Ffrainc nos Sadwrn 22 Chwefror (gêm yn dechrau 6.05pm) a gêm olaf y Bencampwriaeth, Cymru v Yr Alban nos Wener 14 Mawrth (gêm yn dechrau 7.00pm).
Fe gafodd tîm Cymru dan 20 eu tymor mwyaf llwyddiannus erioed y tymor diwetha’, trwy gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd a pherfformio’n dda ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae awyrgylch arbennig ym Mharc Eirias ac mae S4C wedi darlledu nifer o gemau cofiadwy yno dros y blynyddoedd.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys:
“Mae’n bleser i allu dweud y byddwn ni’n dangos gemau mawr tîm dan 20 Cymru eto ym Mhencampwriaeth dan 20 y Chwe Gwlad 2014 ar S4C. Mae’r tîm wedi dangos yn gyson bod safon y chwarae ar y lefel yma’n arbennig o uchel ac mae’n glir bod dilynwyr rygbi drwy Gymru’n mwynhau’r gemau’n fawr. Mae dangos y bencampwriaeth yma'n rhan o ymdrechion S4C i gefnogi rygbi iau, ochr yn ochr â'n rhaglenni Rygbi'r Colegau.
"Byddwn ni gant y cant y tu ôl i’r tîm dan 20 eto eleni - ac yn gobeithio y byddwn ni’n gallu eu gweld yn codi tlws y bencampwriaeth yn fyw ar S4C.”
Am fanylion am y tocynnau, cysylltwch â Venue Cymru (01492) 872000 neu ewch i venuecymru.co.uk neu safle Undeb Rygbi Cymru, wru.co.uk/tickets
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?