Wildseed Studios yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C
05 Rhagfyr 2013
Mae Wildseed Studios wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C sy'n rhoi cyfran sylweddol i'r darlledwr yn y cwmni, a sedd ar eu bwrdd.
Mae Wildseed Studios yn gwmni sy'n datblygu talentau a chynnwys newydd ar gyfer y genhedlaeth nesa ac yn comisiynu cynnwys gan gyfranwyr newydd a phrofiadol sydd â diddordeb mewn dulliau newydd o greu cynnwys ar gyfer pob platfform.
Dywedodd David Bryant, Pennaeth Datblygu Masnachol S4C, "Fe wnaeth gweledigaeth Miles a Jesse ar gyfer Wildseed greu argraff arnom ni, yn ogystal â'r cyfle i fuddsoddi mewn menter fasnachol atyniadol iawn. Bydd y buddsoddiad yma yn agor llwybrau newydd i dalentau yng Nghymru i fanteisio ar gyllid a chefnogaeth strategol a chreadigol ar gyfer prosiectau maen nhw'n dymuno eu datblygu."
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnig cyfleoedd i S4C gyd-gynhyrchu cynnwys gyda Wildseed ac yn rhoi'r hawl i drosleisio eu cynnwys i'r iaith Gymraeg ar gyfer ei ddarlledu ar y Sianel.
"Yr hyn a greodd argraff arnom ni oedd brwdfrydedd S4C tuag at ein cynllun busnes â'u parodrwydd i fwrw ati’n gyflym er mwyn bod yn rhan o'r Cwmni," meddai Miles Bullough, Rheolwr Gyfarwyddwr Wildseed. "Mae'r buddsoddiad yn rhoi llwyfan gwych i ni gyflwyno ein cynnwys diweddaraf yn y Flwyddyn Newydd ar YouTube a mannau eraill ac i barhau i weithio gyda rhai o'r talentau newydd a phrofiadol mwyaf cyffrous yng Nghymru a thu hwnt."
Bydd Wildseed yn cynnal digwyddiad 'Cwrdd â Stiwdio Wildseed' yn nhafarn Porters yng Nghaerdydd (www.porterscardiff.com) am 7.00yh ar 22 Ionawr er mwyn cwrdd â'r gymuned greadigol yng Nghymru ac esbonio sut mae'r cwmni yn gweithio. Mae gwybodaeth am y digwyddiad ar gael ar wefan http://wildseedstudios.com/meet-wildseed-in-cardiff/
Mae Wildseed Studios yn chwilio am syniadau ar gyfer cynnwys mewn pedwar genre: Ffuglen; Sitcom Animeiddio; Comedi Cymeriad; a hefyd comedi ar gyfer plant 6-11.
Gallwch gyflwyno eich syniadau gwreiddiol i Wildseed Studios yma: http://wildseedstudios.com/sending-ideas-to-wildseed
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?