06 Rhagfyr 2013
Mae Cymorth Canser Macmillan wedi canmol dwy o raglenni newydd S4C a gaiff eu darlledu'r wythnos hon sydd yn edrych ar realiti derbyn diagnosis o ganser.
Mae rhaglen ddogfen O'r Galon: Stori Meinir sy'n cael ei darlledu nos Sul 8 Rhagfyr am 8.30pm a'r ffilm ffuglenol Reit Tu Ôl i Ti ar nos Sul 15 Rhagfyr am 9.00pm yn trafod canser yn ddi-flewyn ar dafod; y driniaeth, y sgil effeithiau ac effaith y salwch nid yn unig ar y claf ond ar deulu a ffrindiau'r claf hefyd.
Meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymru, Cymorth Canser Macmillan:
"Mae rhaglenni fel Stori Meinir a Reit Tu Ôl i Ti yn hollbwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth am beth yw realiti derbyn diagnosis o ganser. Bob blwyddyn mae 18.000 o bobl yng Nghymru yn clywed y newyddion torcalonnus bod canser arnyn nhw. Mi fydd y newyddion yn effeithio pawb sy'n eu caru nhw. Canser yw'r frwydr galetaf y bydd yr un ohonom yn ei wynebu yn ystod ein bywydau. Ac mae'r unigrwydd mae cymaint o bobl yn ei deimlo yn gwneud y profiad yn galetach fyth.
"Yn aml iawn dyw llawer o’r bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser ddim yn sylweddoli bod angen cymorth arnynt i ymdopi gyda’r anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol, a fydden nhw chwaith ddim yn gwybod lle i fynd i gael y cymorth yma. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn gorfod delio gyda chanser ar ben ei hun. Mae Macmillan Cymru yma i helpu ac i gefnogi cleifion canser a'u teuluoedd gydag unrhyw broblemau ymarferol, ariannol, seicolegol ac emosiynol a all godi yn dilyn diagnosis o ganser."
Mae O'r Galon: Stori Meinir yn rhaglen unigryw sy'n dilyn taith Meinir Siencyn o’r diwrnod y cafodd ddiagnosis gyda chanser y fron ym mis Mai, hyd nes y diwrnod y derbyniodd y canlyniadau olaf hollbwysig ym mis Tachwedd.
Gwaith gwreiddiol gan y dramodydd Meic Povey yw Reit Tu Ôl i Ti. Mae'n ffilm emosiynol sy'n ymdrin â sefyllfa ddirdynnol yw Reit Tu Ôl i Ti, wrth i ŵr a gwraig, Dewi a Megan, ddod wyneb yn wyneb â chanser. Yn y ffilm byddwn yn gweld sut mae Dewi a Megan yn ymdopi ag effeithiau'r salwch: ei effaith ar eu perthynas, ac ar eu teulu, wrth edrych tua'r dyfodol.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Fel darlledwr rydym yn teimlo ei bod hi'n bwysig i ni beidio cilio rhag siarad am bynciau anodd fel canser. Mae rhaglenni O'r Galon: Stori Meinir a Reit Tu Ôl i Ti yn dangos effaith canser ar y claf ac ar y teulu, ac yn adlewyrchu realiti'r salwch creulon yma. Gobeithio y bydd y rhaglenni yn helpu pobl eraill sydd wedi bod, neu yn mynd trwy sefyllfa debyg ar hyn o bryd."
O'r Galon: Stori Meinir – Nos Sul 8 Rhagfyr, 8.30pm.
Reit Tu Ôl i Ti – Nos Sul 15 Rhagfyr, 9.00pm.
Diwedd