13 Rhagfyr 2013
Mae Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd wedi agor ei drysau ar gyfer ffilmio drama ar S4C.
Mae'r ffilm Reit Tu Ôl i Ti, ar S4C nos Sul 15 Rhagfyr 9.00, yn stori emosiynol sy'n ymdrin â sefyllfa ddirdynnol wrth i ŵr a gwraig, Dewi a Megan, ddod wyneb yn wyneb â chanser, ac effaith y salwch ar eu perthynas nhw ac ar eu teulu.
Dydy stori Dewi a Megan ddim yn un anghyffredin. Mae miloedd o deuluoedd yn byw gyda diagnosis o ganser bob dydd. Mae pobl yn mynd drwy gyfnodau caled ofnadwy, o boen a galar, ond er gwaethaf hynny maen nhw’n dod trwyddi ac mae bywyd yn mynd yn ei flaen. Dyma yw neges obeithiol y ffilm.
Mae rhai o'r golygfeydd wedi eu ffilmio gyda chydweithrediad gweithwyr a chleifion Canolfan Ganser Felindre, sydd hefyd yn ymddangos yn y ffilm fel actorion cefndir.
Yn chwarae rhan Megan mae Rhian Morgan, sydd wedi serennu mewn sawl drama ar S4C gan gynnwys Teulu a Pobol y Cwm. Roedd hi'n dweud bod y profiad o ffilmio yno wedi cadw ei thraed ar y ddaear.
Meddai Rhian: "Yn yr olygfa pan mae fy nghymeriad yn mynd am driniaeth cemotherapi am y tro cyntaf, mae'r bobl sy'n eistedd bob ochr i mi yn gleifion yn y ganolfan ac yn derbyn triniaeth go iawn. Fe ges i gymaint o help gan y cleifion a'r staff. Ro'n i'n gallu holi unrhyw beth ac roedd pawb yn siarad yn onest ac yn agored am sut roedd canser wedi effeithio arnyn nhw."
Yn chwarae rhan Dewi mae'r actor Matthew Gravelle, sydd â chysylltiad personol â'r Ganolfan.
"Doeddwn i erioed wedi bod yno o'r blaen, ond tua 14 mlynedd yn ôl cafodd fy mam driniaeth yno yn erbyn canser y fron," meddai Matthew sydd wedi bod mewn sawl cyfres boblogaidd yn ddiweddar gan gynnwys Y Gwyll / Hinterland ar S4C a Broadchurch ar ITV. "I'r bobl sy'n cael triniaeth, mae Felindre yn dod yn ganolbwynt i'w bywydau, ac mae'n le mor bositif roedd e'n ysbrydoli rhywun."
Mae Canolfan Ganser Felindre yn dweud eu bod nhw'n hapus i helpu gyda chreu'r ffilm.
Dywedodd Andrea Hague, Cyfarwyddwr Canolfan Ganser Felindre: "Mae'r awyrgylch bositif wnaeth yr actorion ei brofi yn ystod y ffilmio yn hollol nodweddiadol o agwedd ein cleifion a'n staff. Mae Canolfan Ganser Felindre yn cynnig y gofal gorau posib i'n cleifion gyda'r nod hefyd o barhau i wella a chadw ein henw da fel un o ganolfannau canser arbenigol gorau'r DU.
"Rwy'n falch iawn fod ein staff a'n cleifion wedi gallu helpu i greu'r ffilm hon, sy'n dangos effaith canser ar fywydau."
Mae Reit Tu Ôl i Ti ar S4C nos Sul 15 Rhagfyr 9.00. Gwyliwch ar-lein neu ar alw ar s4c.co.uk/clic
Diwedd