Y Gwyll yn ymledu i ddarlledwyr eraill wrth i gyfres S4C gyrraedd BBC Cymru Wales
18 Rhagfyr 2013
Fe fydd cyfres fwyaf S4C yn 2013, Y Gwyll / Hinterland yn dechrau ei thaith ryngwladol gartref wrth gael ei darlledu gan BBC Cymru Wales.
Gyda rhai penodau o'r Gwyll yn dal i fod ar gael drwy wasanaeth ar alw S4C, Clic, fe fydd y gyfres yn cael ei dangos ar BBC One Wales ar 4 Ionawr am 9.30pm gyda’r Gymraeg a'r Saesneg i’w clywed.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:
"Ry'n ni wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â’r BBC, All3Media International, Tinopolis, Fiction Factory a Llywodraeth Cymru ar un o brosiectau mwyaf S4C, sef Y Gwyll/Hinterland.
"Ein bwriad gyda'n partneriaid oedd creu drama afaelgar a chyffrous a chreu platfform i bobl o bob rhan o'r byd gael gweld Cymru a'r Gymraeg.
"Mae ymateb y gynulleidfa i'r gyfres wedi bod yn wych hyd yma ac ry'n ni'n dymuno pob llwyddiant i ddarllediadau gan ddarlledwyr eraill."
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?