Mae ffilm ddogfen S4C am ddewrder dau ddyn 75 oed wrth iddynt ddringo copa mynydd enwog yn America wedi ennill medal Arian yn y categori Ffilm Ddringo Orau yng ngwobrau Gŵyl Ffilm Antur Sheffield, ShAFF 2014.
Mae’r ddogfen 75: Byth Rhy Hen, a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni Slam Media ar gyfer S4C yn dilyn Jeremy Trumper o Wynedd wrth iddo wireddu ei freuddwyd o ddringo Tŵr y Diafol - Devil’s Tower - yn nhalaith Wyoming yn Unol Daleithiau America.
Ac yntau yng nghanol ei 70au, fe wnaeth Jeremy o Gwm Pennant ger Porthmadog wynebu’r her gyda'i gyfaill, y dringwr a'r anturiaethwr byd-enwog o Dremadog, Eric Jones.
Mae’r rhaglen, a gafodd ei darlledu ar S4C yn 2013, yn dilyn eu taith o Eifionydd i’r UDA lle maen nhw’n dringo’r graig serth sy'n esgyn yn drawiadol dros 1,200 o droedfeddi uwch y tirwedd gwastad.
Mae Gŵyl Ddringo Antur Sheffield - ShAFF2014 - ymhlith yr enwocaf o’r gwyliau dringo yng ngwledydd Prydain.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol, “Dyma ffilm ddogfen yn dathlu bywyd, cryfder ysbryd a gwireddu breuddwydion. Mae’n ysbrydoliaeth, a dawn a chymeriadau Eric a Jeremy yn swyno. Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n gysylltiedig â’r ffilm ddogfen gofiadwy a gafaelgar hon.”
Dyma’r cynhyrchiad diweddaraf ymhlith twr o raglenni dringo S4C sydd wedi ennill gwobrau mewn gwyliau dringo ledled y byd yn y misoedd diwethaf.
Mae Jeremy yn dringo ers yr oedd yn 14 oed, pan roedd yn y Sgowtiaid ac ar deithiau dringo a oedd yn cael eu harwain gan y dringwr adnabyddus Showell Styles.
Bu Jeremy Trumper yn dringo byth ers hynny, gan hefyd gadw maes carafannau, ffermio tyddyn yng Nghwm Pennant a magu pedwar o blant.
Ei wraig Margaret daniodd obsesiwn Jeremy gyda Thŵr y Diafol.
Meddai Jeremy, "Mi brynodd lyfr i mi un Nadolig yn llawn dringfeydd anhygoel o bob cwr o'r byd, ac yno y gwelais i Dŵr y Diafol am y tro cyntaf. Byth ers hynny mi oeddwn i'n 'obsessed', ac yn benderfynol o gael mynd yno, a dringo i'r copa. Mi oedd hi'n braf cael gwireddu’r freuddwyd hefo Eric Jones wrth fy ochr, fedrwn i ddim ffeindio neb gwell i gyflawni hyn efo fi."
Meddai Aled Llŷr o gwmni Slam Mediaa, "Y peth wnaeth fy ngwirioni efo fo oedd cyfeillgarwch y ddau. Mae'r ddau yn goeth - yn fois sydd wedi byw ac mae eu gwerthoedd a'u perthynas nhw yn arbennig. Dwi'n gobeithio y bydd hi'n ysbrydoliaeth i lawer, ta waeth faint ydy eu hoed nhw.”
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?