Mae modd gwylio S4C drwy ddull newydd wrth i'r platfform TVPlayer gynnwys y Sianel ar ei gwasanaeth.
Gwasanaeth ar-lein yw TVPlayer sy'n caniatáu gwylio sianeli teledu y DU yn fyw, ac am ddim, ar www.tvplayer.com neu drwy lawr lwytho app.
O ddydd Iau 1 Mai, 2014, bydd S4C yn cael ei hychwanegu at y rhestr o sianeli sydd eisoes yn cynnwys BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5.
Dywedodd Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, "Mae TVPlayer yn ffordd arall o wylio ein cynnwys, ac mae'r app yn caniatáu gwylio ar ddewis eang o ddyfeisiadau symudol.
Mae hyn yn darparu ffordd ychwanegol i'r gynulleidfa ddod o hyd a mwynhau cynnwys S4C."
Dywedodd Lewis Arthur, Rheolwr Platfform ar gyfer TVPlayer, "Rydym yn falch o gynnwys S4C ar ein platfform. Mae TVPlayer yn ymestyn cyrhaeddiad sianeli drwy fanteisio ar gyfleoedd gwylio aml-blatfform ar y we a drwy ddyfeisiadau symudol."
Mae gwasanaeth TVPlayer ar gael ar www.tvplayer.com neu drwy lawr lwytho'r app am ddim o'r App Store, Google Play a'r Amazon Appstore.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?