Buodd yna ddigwyddiadau hollol bananas ar strydoedd Y Bala yn ddiweddar, wrth i S4C baratoi i ddarlledu o Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014, ar 26 i 31 Mai.
Roedd cynnwrf yn y dref gyda channoedd o ddisgyblion a thrigolion lleol yn ymuno â rhai o wynebau cyfarwydd S4C i serennu mewn fideo i hyrwyddo rhaglenni'r Sianel o'r ŵyl ieuenctid eleni.
Mae'r fideo newydd yn cyd-fynd ag addasiad o'r gân Mynd i'r Bala Mewn Cwch Banana – a ryddhawyd yn wreiddiol yn y 1960au gan Bara Menyn.
Yn cymryd rhan roedd aelodau o Aelwyd Penllyn a disgyblion Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant, Ysgol Ffridd y Llyn, Ysgol Bro Tegid, Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol O.M Edwards.
Yn y fideo gwelir nhw yn hwylio ar long Brenin Arthur gyda'r môr leidr Ben Dant, yn dringo ar raffau yng ngwersyll Glan Llyn, ac yn teithio ar y trên bach o Lanuwchllyn i'r Bala.
Ac ar ddydd Mercher, 30 Ebrill, daeth y traffig i stop ar Heol Tegid ar gyfer gorymdaith liwgar hollol bananas, gydag oddeutu 300 o bobl yn ymuno yn y dathlu.
Yn ystod yr ymweliad hefyd fe wnaeth Cyw ffrind newydd pan fuodd hi gwrdd â'r seren leol Tegi – anghenfil Llyn Tegid!
Dywedodd Aled Wyn Phillips, Pennaeth Promos ar y Sgrin S4C, "Fideo bywiog, a 'bach o hwyl, yw hon. Mae hi'n siŵr o godi gwên wrth i ni edrych ymlaen at ddarlledu Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala.
"Mae diolch i'r plant a'r bobl leol fu'n serennu ac yn helpu i greu'r campwaith. Dwi'n gobeithio eu bod nhw wedi mwynhau y bananas cymaint â ni!"
Bydd y fideo i'w weld ar y sgrin o 12 Mai ymlaen, gan ein harwain at gynnal Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 pan fydd S4C yn darlledu o'r llwyfan a'r maes o fore gwyn tan nos.
Yn ein tywys ni drwy'r cyfan bydd Anni Llyn, Lois Cernyw, Trystan Ellis Morris, Nia Roberts, Heledd Cynwal ac Iwan Griffiths.