Mae S4C yn falch o gyhoeddi eu bod am gyd-weithio ar gynyrchiadau gyda sianel JTV yn Ne Korea, a hynny drwy gydweithrediad a thrafodaethau gyda’r cwmni The Bridge, cwmni annibynnol ac arloesol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.
Cynnyrch y cyd-weithio fydd tair rhaglen ddogfen sydd am ei chynhyrchu gan Awen Media a Rondo Media ar gyfer S4C.
Mae Comisiynydd Cynnwys S4C, Llion Iwan yn edrych ymlaen at gyd-weithio mewn partneriaeth â S4C, The Bridge a sianel De Korea, JTV.
“Rydym yn hynod o gyffroes gan y bartneriaeth newydd, ac yn teimlo ein bod yn torri cwys newydd, a chanlyniad hyn fydd cynyrchiadau cynhyrfus ar ein cyfer ni ein hunain, ac ar gyfer ein partneriaid yn Ne Korea. Mae S4C wedi bod yn awyddus i archwilio prosiectau eraill yn dilyn llwyddiant diweddar rhaglenni fel y Gwyll, ac wrth weithio gyda The Bridge mae gennym ni brosiectau uchelgeisiol i’w cyflawni, ac rydym ni’n credu y gallwn greu rhywbeth arbennig ar sgrin.”
Bydd rhaglen ddogfen R.J.Thomas yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas, sydd yn cael ei gyfrif fel y gŵr a gyflwynodd Gristnogaeth i Dde Korea. Bydd y rhaglen ddogfen yn cael ei chynhyrchu ar y cyd rhwng sianel Awen Media a sianel JTV yn Ne Korea.
Ac yna ceir cyfres o ddwy raglen, ‘Y Rhyfel angof’, i’w chynhyrchu gan Awen Media, ar “Milwr Cymreig” i’w chynhyrchu gan Rondo Media, ar gyfer S4C a sianel JTV yn Ne Korea. Bydd y rhaglenni hyn yn archwilio ymrwymiad y Cymry ym mrwydr Korea.
Ffurfiwyd The Bridge yn 2014, gyda chefnogaeth cwmni cynhyrchwyr byd-eang Argonon, a dan arweiniad eu Rheolwr Gyfarwyddwr Amanda Groom, sydd â phrofiad eang yn pontio cwmnïau Prydain â chynhyrchwyr yn Asia. Bwriad y cwmni yw dethol cynigion gorau ar gyfer y farchnad yn Korea.
Mae Amanda Groom, Rheolwr Gyfarwyddwr The Bridge wrth ei bodd gyda’r bartneriaeth newydd rhwng S4C, The Bridge a sianel De Korea, JTV.
“Mae’r Bridge wrth eu boddau i gael derbyn cadarnhad o fuddsoddiad rhaglen a chyfres o Dde Korea, gan ddod a chynyrchiadau arloesol a chynhyrfus rhwng dau gynhyrchydd Cymreig, Rondo Media ac Awen Media a JTV, y cynhyrchwyr o Dde Korea, canlyniad y partneriaethau yma yw bod mwy o storiâu Cymreig yn cael eu darlledu i gynulleidfa S4C”.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?