Mae Cariad@Iaith:Love4Language yn dod nôl i S4C. Y tro hwn, grŵp o selebs sy’n derbyn yr her o ddysgu Cymraeg mewn wythnos - a hynny yng nghanol harddwch Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn.
Mi fydd cyfres 2014 yn dechrau ar S4C nos Lun 16 Mehefin gyda Nia Parry a Matt Johnson yn cyflwyno’r rhaglenni nosweithiol – ond bydd rhaid disgwyl am y tro i glywed pwy fydd y selebs fydd yn cadw cwmni iddyn nhw.
Bydd y criw yn aros yng Nghanolfan Breswyl Cymraeg i Oedolion, Nant Gwrtheyrn yn Llithfaen ger Pwllheli am wythnos er mwyn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda’r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn bob dydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau lu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd rhaglen arbennig yn cyflwyno'r sêr ar S4C nos Sadwrn 14 Mehefin am 8.00pm, ac yna bydd Cariad@Iaith:Love4Language ymlaen bob noson o nos Lun 16 Mehefin hyd at nos Wener 20 Mehefin am 8.30pm a 9.25pm, a darlledir y ffeinal nos Sadwrn 21 Mehefin am 8.00pm. Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Fflic, sy'n rhan o Boom Pictures Cymru.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C:
“Ry'n ni wrth ein boddau bod yr wyth yma wedi cytuno i gymryd rhan - maen nhw'n gasgliad eclectig a dweud y lleiaf! Maen nhw'n dod o bob math o gefndiroedd gwahanol ac yn enwog mewn meysydd gwahanol iawn i'w gilydd. Ry'n ni'n siŵr y bydd llawer o hwyl lawr yn y Nant efo'r criw yma wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu Cymraeg ac ysbrydoli eraill i roi cynnig arni."
Bydd enwau'r wyth yn cael eu datgelu ddydd Llun 19 Mai felly dilynwch @s4cariad ar Twitter a hoffwch Cariad@Iaith:Love4Language ar Facebook i glywed gyntaf pwy yw'r criw dethol dewr sydd ddigon mentrus i dderbyn her Cariad@Iaith:Love4Language 2014.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?