Ar ddydd Sul, 18 Mai, bydd Howard Davies o dîm cyflwyno'r gyfres moduro Ralïo+ ar S4C yn cystadlu mewn ras Plop Enduro ar drac Ynys Môn.
Ras beiciau modur Honda bychan ydi'r Plop Enduro, ac mae'n ras sy’n gallu cymryd o leiaf 6 awr i’w chwblhau!
Bydd y ras i’w gweld ar raglen Ralïo+, S4C nos Fawrth, 20 Mai, am 9.30.
Bydd Howard, sy’n byw ym Mhantperthog ger Machynlleth ac sy’n 48 oed, yn un o dri mewn tîm fydd yn ceisio cwblhau’r ras hon, ac mae o’n edrych ymlaen at yr her;
“Mae o’n sialens newydd. Dw i wedi reidio beiciau yn hir, ond ddim wedi gwneud dim byd fel hyn." meddai Howard.
"Mi fydd o’n hwyl! Mae o am fod yn reid o ryw 6 awr, ac mi fydd o’n sialens fawr, ac mi gawn ni lot o hwyl. Gobeithio cewch chi fel gwylwyr sbort ar ein pennau!”
Bydd o leiaf 70 o yrwyr yn cystadlu yn y ras , ac yn cyrraedd cyflymder o oddeutu 58 milltir yr awr ar y beiciau modur bach.
Mae rhai yno i geisio ennill y ras, ac eraill yn cystadlu am hwyl. Gelwir y gystadleuaeth yn 'Plop Enduro' gan mai dyna’r sŵn mae’r modur yn ei wneud.
Bydd Trac Môn yn noddi cyfres Ralïo+ nos Fawrth, ac mae Christopher Bibb, Rheolwr Trac Môn, yn falch o wneud hynny, yn enwedig gyda’r gyfres yn dathlu ei degfed blwyddyn ers darlledu’r rhaglen gyntaf.
Meddai Christopher Bibb, “Rydym ni fel trac rasio Môn wrth ein boddau ein bod yn noddi Ralïo+. Mae o’n sioe grêt, sy’n targedu'r ffan modur cyffredin, ac yn agos at galon Ralïo yng Nghymru.
"Rydym yn hoff o’r ffaith fod y rhaglen hefyd yn sôn am wahanol ddisgyblaeth o fewn y chwaraeon; ceir, beiciau modur, ac yn dangos chwaraeon sydd ddim ar y ffordd. Ac rydym yn hoffi’r ffaith ei fod yn rhoi lle mor amlwg i Ralïo ar lefel lleol.”
Nid dyma’r unig ras bydd Ralïo+ yn ei ddangos o Drac Môn, yn ystod y tymor bydd Ralïo+ hefyd yn dangos sawl digwyddiad o’r trac, gan gynnwys rali Caernarfon a Sir Fôn.
Ralïo+
Nos Fawrth 20 Mai 9.30, S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?