27 Mai 2014
Fe fydd Prif Weithredwr S4C yn dweud heddiw bod rhaid sicrhau lle’r Gymraeg ar bob cyfrwng - teledu, ar-lein a llwyfannau newydd - yn ogystal ag ar y stryd ac yn y cartref er mwyn i’r iaith ffynnu ac er mwyn i ofynion cynulleidfaoedd y dyfodol gael eu gwireddu.
Mewn araith ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, bydd Ian Jones yn dweud bod datblygiadau technolegol yn newid arferion bywyd yn gyflym, ac yn ychwanegol i’r amserlen deledu draddodiadol, bydd rhaid sicrhau lle’r Gymraeg ar declynnau clyfar a dyfeisiadau’r dyfodol er mwyn i’r Gymraeg gael ei gweld a’i defnyddio.
Fe ddaw’r sylwadau wrth i’r sianel gyhoeddi dogfen ymgynghorol ar faes yr Eisteddfod fydd yn trafod y gwasanaethau y bydd angen eu cynnig yn y dyfodol er mwyn cyd-fynd ag arferion gwylio’r cyhoedd.
Yn ôl Mr Jones, mae’r ffordd y bydd y sianel yn delio â datblygiadau technolegol yn allweddol i’r ymdrechion i sicrhau bod yr iaith yn parhau’n iaith bob dydd.
Ffocws y ddogfen, S4C: Dyfodol Teledu Cymraeg, fydd sut y gall y sianel ateb gofynion y cenedlaethau nesaf o Gymry ifanc. Mae’n cael ei disgrifio fel man cychwyn i’r drafodaeth wrth i gyllideb y sianel gael ei thrafod dros gyfnod adolygiad siarter y BBC, ac wrth i’r pleidiau gwleidyddol gynllunio ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Cyn y digwyddiad, sydd i’w gynnal am 1130 ym Mhafiliwn Annedd Wen ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe ddywedodd Ian Jones:
“Os edrychwn ni nôl degawd a hanner, i droad y mileniwm, roedd y dechnoleg oedd yn cael ei defnyddio gan y cyhoedd yn gyntefig braidd i gymharu â heddiw. Mae pethau wedi symud ymlaen yn gyflym iawn ac mae’n rhaid disgwyl y bydd y dechnoleg yn symud ymlaen eto llawn gymaint yn ystod y degawd a hanner nesaf.
“Ac wrth i arferion byw gael eu newid yn gyflym gan y dechnoleg ry’n ni ei defnyddio i gyfathrebu, i wylio, i ymlacio - mae’n rhaid inni sicrhau bod adnoddau o’r fath ar gael yn y Gymraeg. Fel yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, fe fydd hi’n bwysig iawn bod S4C ynghanol y bwrlwm yma - yn sicrhau bod modd defnyddio’r Gymraeg o hyd yn yr oes ddigidol hon.
“Wedi’r cyfan, ochr yn ochr ag ymdrechion i drosglwyddo’r Gymraeg i fwy a mwy o’n pobl ifanc dros y blynyddoedd nesaf, fe fydd hi’n hanfodol bod yna gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith fel rhan o’n harferion bob dydd.”
“Dechrau trafodaeth ydw i heddiw wrth inni gyhoeddi dogfen S4C: Dyfodol Teledu Cymraeg. Trafodaeth yw hi am y math o wasanaethau fydd eisiau arnom yn y dyfodol, a sut y gallwn ni, yn ariannol, sicrhau ein bod yn gallu datblygu’r gwasanaethau hynny.”
Diwedd
Nodiadau:
Fe fydd araith Ian Jones yn dechrau am 1130 ym Mhafiliwn Annedd Wen ar faes yr Eisteddfod
Gwyliwch yr araith yn fyw ar-lein ar y safle yma: http://www.s4c.co.uk/keynote/