30 Mai 2014
Fe fydd cyfle i gyw ohebwyr y dyfodol ennill cyfnod o brofiad gwaith gyda chriw teledu Hacio a’r Byd ar Bedwar mewn cystadleuaeth newyddiaduraeth newydd Eisteddfod yr Urdd.
Fe fydd rhaid i’r ymgeiswyr gynhyrchu stori newyddion gwreiddiol am eu hardal leol ar gyfer unrhyw gyfrwng o’u dewis.
Yn ôl Sali Collins, darlithydd Newyddiaduraeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd “nôd y gystadleuaeth yw annog plant a phobl ifanc i fynd ati a sgwennu a chreu cynnwys newyddiadurol drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Wrth i ni ddatblygu darpariaeth newydd drwy gyfrwng y Gymraeg yng nghanolfan newyddiaduraeth mwyaf blaenllaw Prydain ym Mhrifysgol Caerdydd mae’n holl bwysig ein bod yn annog plant a phobl ifanc I sgwennu a chreu cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae na alw am newyddiadurwyr sy’n medru gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r gobaith yw y bydd y gystadleuaeth a’r wobr hon yn rhoi profiad fythgofiadwy i’r enillydd a chyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol, ieithyddol a digidol."
Fe fydd yr enillydd/enillwyr yn treulio cyfnod fel newyddiadurwyr ac ymchwilwyr gyda thîm Hacio a newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar ITV Cymru ar gyfer S4C.
Dywedodd Sian Morgan is olygydd a gohebydd Y Byd ar Bedwar a Hacio ITV Cymru;
“Rydym yn falch iawn i gynnig y wobr ar gyfer y gystadleuaeth hon. Fe fydd yr enillydd yn cael blas ar weithio i’r Byd ar Bedwar a Hacio yn ystod y cyfnod profiad gwaith. Mae’n gyfle gwych i ni hefyd cael cip olwg ar ddarpar newyddiadurwyr y dyfodol."
Yn ôl Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C;
“Mae galw mawr am raddedigion a phobl ifanc gyda sgiliau newyddiadurol. Nid yn unig i weithio fel newyddiadurwyr ond mewn meysydd eraill yn y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus. Mae’n bwysig hefyd ein bod yn meithrin a datblygu talent newydd yng Nghymru ac mae’r gystadleuaeth yma yn gyfle i wneud hynny.
Fe fydd rhaid i ymgeiswyr greu cynnwys newyddion gwreiddol am eu hardal ar unrhyw stori mae nhw’n meddwl ddylai gael sylw yn y wasg.
Dywedodd Sali Collins “Rydym yn edrych am unrhyw fath o gynnwys newyddion, boed hynny’n erthygl, adroddiad ar gyfer y radio, we neu deledu."
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, a fydd yn lansio'r gystadleuaeth heddiw (Gwener 30 Mai):
“Bydd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i bobl ifanc meithrin yr hyder i fynd ati i greu cynnwys newyddiadurol gwreiddiol drwy gyfrwng y Gymraeg, a datblygu sgiliau newyddiadurol, creadigol ac ysgrifenedig gwerthfawr tu hwnt.
“Mae’n hollbwysig bod diwydiant newyddion cryf yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn ymwybodol o’r materion lleol a chenedlaethol sy’n effeithio ar eu bywydau nhw. Bydd y gystadleuaeth yn helpu meithrin y dalent sydd yma yng Nghymru, a dwi’n edrych ymlaen at gael fy nghyfweld gan y bobl ifanc yma yn y dyfodol!”
Yn ôl Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn;
“Rydym yn ddiolchgar i Goleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd am eu cydweithio ac yn croesawu’n fawr y ddarpariaeth newydd y gallwn ei chynnig i gystadleuwyr yr Urdd ym maes newyddiaduraeth. Mae’n garreg filltir bwysig wrth i ni gyhoeddi cynlluniau cyffrous fel hyn yn dilyn argymhellion Gweithgor yr Eisteddfod. Mae’n bwysig bod Eisteddfod yr Urdd yn parhau’n sefydliad blaengar, cynhyrfus sy’n cynnig yr ystod gywir o fanteision a chyfleoedd i’n haelodau trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwn ymlaen at weld ffrwyth llafur cyw ohebwyr y dyfodol.”
Diwedd
Nodiadau:
Mae’r gystadleuaeth hon yn bartneriaieth rhwng Yr Urdd, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Caerdydd, ITV Cymru/Wales ac S4C.
Mae’r gystadeluaeth ar agor i unigolion neu grwpiau o bobl ifanc oed 16 -21.
Am fanylion pellach http://www.cardiff.ac.uk/jomec/urddcystadleuaeth/
I ddilyn y diweddaraf ar Twitter #hacs/