30 Mai 2014
Bydd BBC Cymru Wales ac S4C yn dangos y gêm bêl-droed ryngwladol rhwng Yr Iseldiroedd a Chymru yn fyw Nos Fercher, 4 Mehefin (cic gyntaf, 7.30). Bydd modd dilyn y gêm hefyd ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Y gêm yn y Amsterdam Arena yn ninas Amsterdam yw gêm olaf yr Iseldiroedd cyn iddynt ei hel hi am Frasil ar gyfer Cwpan y Byd 2014, ble maent ymysg y goreuon i ennill y dwrnamaint.
I Gymru, dyma’r prawf delfrydol wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ymgyrch Pencampwriaeth Ewrop nesaf, a hwythau’n cwrdd ag Andorra, Bosnia-Herzegovina, Cyprus, Israel a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol yn yr hydref.
Mae'r rhaglen fyw yn cael ei chynhyrchu ar gyfer S4C a BBC gan dîm darlledu chwaraeon BBC Cymru Wales.
Bydd y rhaglen yn dechau ar S4C am 7.00 a bydd y tîm cyflwyno yn cael ei arwain gan Gareth Roberts, gyda chyn chwaraewr rhyngwladol Cymru Iwan Roberts a'r amddiffynnwr Cymru sydd wedi anafu, Ben Davies yn westai yn y stiwdio a Nic Parry, Malcolm Allen yn y blwch sylwebu.
Bydd darllediad BBC Cymru Wales yn cael ei angori gan Jason Mohammad gyda’r cyn chwaraewyr rhyngwladol Dean Saunders, Barry Horne a Rob Earnshaw yn westeion stiwdio a Rob Phillips a Kevin Ratcliffe yn y blwch sylwebu.
Ym mlwch sylwebu BBC Radio Wales fydd Simon Davies ac Ian Walsh gyda John Hardy a Marc Lloyd Williams yn sylwebu ar BBC Radio Cymru. Bydd y sylwebaeth hefyd ar gael ar-lein.
Mae'n dipyn o bluen yn het Cymru i gael eu gwahodd gan yr Iseldiroedd i'w chwarae yn y gêm gyfeillgar hon. Naw niwrnod yn ddiweddarach ar 13 Mehefin, bydd yr Iseldiroedd yn wynebu’r deiliaid Sbaen yn eu gêm grŵp gyntaf yng Nghwpan y Byd 2014, gêm sy'n tynnu ynghyd y ddau dîm a oedd yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica.
Bydd dynion Chris Coleman yn gobeithio rhoi prawf llym i’r meistri o’r Iseldiroedd, gan fod dyfnder yng ngharfan Cymru bellach. Nid yw Cymru wedi curo'r Iseldiroedd ar chwe achlysur blaenorol, ond byddai canlyniad da yn baratoad perffaith ar gyfer y gemau rhagbrofol cyntaf ym Mhencampwriaeth Ewrop ym mis Medi a mis Hydref.
Agwedd ddiddorol arall ar y gêm yw bod y Oranje yn cael eu rheoli gan Louis van Gaal, a fydd yn dechrau ei waith fel giaffar Manchester United yn syth ar ôl ymgyrch Cwpan y Byd, gyda'r arwr Cymreig Ryan Giggs yn gynorthwyydd iddo.
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales Geoff Williams, “Mae hwn yn rhagflas arbennig cyn Brasil, ac yn her a phrawf gwych i Gymru yn erbyn tȋm cryf Louis Van Gaal. Dyma’r rhagflas delfrydol ar gyfer Cwpan y Byd, a sylw’r BBC ar gyfer y dwrnamaint, fydd yn cynnwys sylwebaeth fyw ar allbwn aml blatfform fydd yn cynnwys sgôr, tablau, fidio, blogs ac arsylwadau."
Meddai Comisiynydd Cynnwys S4C Llion Iwan, “Rydym yn falch iawn o gael darlledu gêm bêl-droed ryngwladol Cymru a hynny’n rhad ac am ddim i’n gwylwyr yn yr iaith Gymraeg. Mae hon yn gêm gyfeillgar go arbennig, gyda'r ddau dîm yn gorfod bod yn gystadleuol yn eu gemau olaf cyn eu hymgyrchoedd nesaf. Mae ein darllediadau o’r gêm hon, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddangos pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru. Mae pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru wrth galon amserlen wythnosol S4C yn ystod y tymor.”