Mae S4C wedi creu cyfle newydd yn yr amserlen i bawb fwynhau rhaglenni sy'n rhoi sylw arbennig i hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru.
Bob nos Lun, rhwng 10.00 ac 11.00, mae awr wedi ei neilltuo er mwyn dangos cyfresi nodedig o'r archif. Byddan nhw'n cael eu dangos eto gydag isdeitlau Saesneg agored sy'n caniatáu i bawb ddilyn y cynnwys.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Bwriad y slot newydd yw ymateb i sylwadau, sy'n deillio o drafodaethau gydag arweinwyr mudiadau dysgwyr ac eraill, oedd yn nodi y byddai dangos rhaglenni am hanes a diwylliant Cymru o fudd i'r rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu’r iaith ac hefyd i rheiny sydd â diddordeb yn ein diwylliant. Gydag isdeitlau Saesneg i'w gweld ar y sgrin, bydd y rhaglenni yn medru cael eu mwynhau gan bawb beth bynnag yw eu gallu ieithyddol."
Y ddwy gyfres gyntaf i gael eu dangos ar nos Lun, 9 Mehefin yw Mamwlad (10.00) a Darn Bach o Hanes (10.30).
Cyflwynir Mamwlad gan Ffion Hague a aiff ar drywydd hanes menywod arloesol ein cenedl. Yn y rhaglen gyntaf cawn hanes Megan Lloyd George, yr AS benywaidd cyntaf i gynrychioli Cymru. Bydd Ffion Hague yn ystyried llwyddiannau ac isafbwyntiau gyrfa wleidyddol a bywyd personol Megan.
Lleoliadau, creiriau a phobl yw tair ‘angor’ y gyfres Darn Bach o Hanes a thrwyddyn nhw, cawn olwg ar straeon difyr a dadlennol fydd yn taflu goleuni ar hanes cyfoethog ein gwlad. Yn cyflwyno mae Dewi Prysor ac yn y rhaglen gyntaf, ar nos Lun, 9 Mehefin, cawn hanes chwiban hebogwr sy’n dyddio i’r 17eg ganrif a hanes gardd cegin Sioraidd ger Penybont-ar-Ogwr.
Nos Lun 9 Mehefin
10.00 Mamwlad
10.30 Darn Bach o Hanes
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?