Cyfres S4C am Griw Bad Achub o Wynedd yn derbyn gwobr arbennig
04 Gorffennaf 2014
Mae un o gyfresi dogfen S4C wedi derbyn gwobr arbennig gan Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI) am ei phortread cofiadwy o griw Bad Achub Porthdinllaen ym Mhen Llŷn.
Fe wnaeth cynhyrchwyr y gyfres Bad Achub Porthdinllaen, Cwmni Da o Gaernarfon dderbyn gwobr Enillydd Rhanbarth am y ddogfen yng nghategori'r Cysylltiadau Cyfryngol yng Ngwobrau Cefnogwyr RNLI 2014.
Fe gafodd y gyfres ei darlledu ar S4C ym mis Medi 2013 ac mae’r gyfres chwe rhan yn dilyn blwyddyn yn hanes Bad Achub Porthdinllaen, Gwynedd.
Mae’r gyfres yn bortread gafaelgar o gymeriadau lliwgar criw sy’n wynebu’r her o ymateb i alwadau brys mewn cyfnod pan oedd yn rhaid iddynt ffarwelio â'u hen gwch ac ymgyfarwyddo ag un newydd modern.
Cyflwynwyd y wobr i Mali Parry-Jones, cynhyrchydd y gyfres, mewn seremoni wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Meddai Eleri Roberts, Swyddog y Wasg yn Rhanbarth Gorllewinol yr RNLI
"Roedd hi’n bleser cael cyflwyno Mali a Cwmni Da â’r wobr am y gefnogaeth maent wedi ei roi i’r elusen dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r RNLI wedi cael ymateb gwych i’r gyfres; rydym yn ddiolchgar iawn i Cwmni Da am greu a chefnogi’r gyfres sydd wedi rhoi cip olwg i wylwyr S4C o’r holl waith ac ymroddiad sydd yn cael ei roi yn ddyddiol gan wirfoddolwyr yr elusen i achub bywydau ar y môr."
Mae Mali Parry-Jones o Forfa Nefyn yn aelod o fad achub Porthdinllaen, a Mali oedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu a chyfarwyddo Bad Achub Porthdinllaen.
Meddai Mali Parry-Jones:
"Mae bad achub Porthdinllaen yn rhan fawr o'r gymuned a'r gymdeithas; mae'n rhan o hanes y cylch. Mi gawson ni lot o hwyl yn ffilmio'r gyfres er ei bod hi'n heriol ar adegau - doedd hi ddim yn hawdd ffilmio ar ganol galwad frys!
"Roedd derbyn y wobr yn brofiad arbennig iawn. Roedd hi'n fraint cael fy nghydnabod am yr holl waith, ac roeddwn i mor falch o dderbyn y wobr ar ran, nid yn unig criw bad achub Porthdinllaen, ond ar ran Cwmni Da ac S4C hefyd. Mae'r gydnabyddiaeth yn golygu llawer iawn i mi."
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C:
"Rwy'n hynod falch fod y gyfres a'i chyfranwyr wedi derbyn y gydnabyddiaeth yma, sydd yn deyrnged i'w ymroddiad dros wasanaeth y bad achub. Hoffwn eu llongyfarch yn wresog, a diolch eto am eu gwaith ar y gyfres."
Mae cyfle arall i wylio'r gyfres ar hyn o bryd ar wefan Clic S4C (http://www.s4c.co.uk/clic/e_level2.shtml?series_id=511309723)
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?