Mae S4C wedi atgyfnerthu ei hymrwymiad i newid ei phresenoldeb ar-lein i .cymru .wales, wrth gadarnhau y bydd ymysg y cyntaf i fabwysiadu’r enw parth newydd.
Heddiw (dydd Llun 21 Gorffennaf), yn adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru, mae Nominet, y cwmni sy'n gyfrifol am gofrestru .cymru .wales, yn cyhoeddi rhestr eang o sefydliadau amrywiol a blaenllaw sydd wedi ymrwymo i newid eu henwau ar-lein o .com neu .uk i'r .cymru a .wales newydd.
Ynghyd ag S4C, mae'r rhestr o sefydliadau a gyhoeddir heddiw yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc, Chwaraeon Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru a chôr Only Men Aloud eisoes wedi datgan eu hymrwymiad.
Fel un o gefnogwyr cynharaf y fenter, mae'r gwaith i wireddu'r cynllun ar blatfformau S4C wedi dechrau.
Meddai Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Rydym yn trafod yr anghenion ar gyfer gweithredu'r newid ar draws ein holl bresenoldeb ar-lein. Fel un o'r sefydliadau sydd wedi ymrwymo i'r cynllun ers y cychwyn, mae'n foddhaol iawn gweld diwrnod dechrau defnyddio .cymru .wales yn nesáu."
Mae S4C wedi croesawu'r rhestr eang o sefydliadau eraill sydd wedi ymrwymo, ac mae Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, yn dweud bod arwyddocâd y newid yn fwy nag enw yn unig.
Meddai Garffild Lloyd Lewis, "Mae newid i ddefnyddio .cymru a .wales ar draws holl wasanaethau a phresenoldeb S4C ar-lein yn gam sy'n atgyfnerthu ein statws a'n balchder fel yr unig sianel deledu Gymraeg ei hiaith yn y byd.
"Gyda'r rhestr sylweddol o sefydliadau blaenllaw ac amrywiol sydd wedi ymrwymo i'r newid, mi fydd gweld .cymru yn cael ei ddefnyddio ar-lein ar draws y byd yn codi ymwybyddiaeth o Gymru fel cenedl sy'n hyderus yn ei hunaniaeth a'i chyfraniad rhyngwladol."
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?