23 Gorffennaf 2014
Bydd prynhawniau Sul yn cael eu gweddnewid ar S4C o fis Medi ymlaen wrth i’r sianel lansio rhaglen Clwb a fydd yn rhoi llwyfan i chwaraeon byw, uchafbwyntiau o gampau amrywiol a lle trafod mewn sioe chwaraeon bum awr newydd danlli.
Mae Clwb yn agor ei gatiau brynhawn Sul 7 Medi ac yn ystod y tymor bydd yn llwyfan i rygbi byw, pêl-droed byw o Uwch Gynghrair Cymru, yn ogystal ag uchafbwyntiau wythnosol o’r gystadleuaeth, rasys seiclo rhyngwladol, ralїo a moduro ar bob lefel, rhedeg, athletau a phob math o gampau eraill o Gymru a thu hwnt.
Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno Clwb brynhawniau Sul ar S4C wrth iddo’n tywys ni trwy holl chwaraeon y dydd - gan gynnwys y newyddion diweddaraf o gemau uwch gynghrair pêl-droed Lloegr sy’n digwydd ar y pryd.
Cwmni teledu Rondo fydd yn cynhyrchu’r rhaglen o’u stiwdio yng Nghaernarfon. Ond bydd amrywiaeth o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr yn cynhyrchu rhaglenni unigol o dan yr ymbarél chwaraeon amryliw. Bydd yn cynnwys rhai o frandiau amlycaf chwaraeon yng Nghymru fel Sgorio, Clwb Rygbi a Ralio+.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, “Rydym yn wlad sy’n angerddol am chwaraeon ac yn feithrinfa i berfformwyr o safon byd. Mae pobl Cymru’n gwybod bod chwaraeon yn rhan bwysig o’n darpariaeth fel sianel ac mae dyfodiad Clwb yn esblygiad gwych fydd yn cynnig mwy i’r gynulleidfa.
“Bydd yna le amlwg yn y Clwb i’n campau traddodiadol, fel rygbi a phêl-droed, ond ochr yn ochr â’r rhain, rydym am roi llwyfan priodol i chwaraeon sy’n tyfu yn eu poblogrwydd. Mae seiclo’n enghraifft wych o gamp sy’n tyfu drwy’r amser a fydd yn cael sylw cyson ar Clwb, a bydd digon o le hefyd i gampau megis athletau, ralio, nofio, gymnasteg a llu o chwaraeon eraill.”
Meddai Comisiynydd Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, Llion Iwan, “Rydym wedi tynnu ynghyd dîm cynhyrchu o’r safon uchaf i gynnig pecyn atyniadol o chwaraeon. Rydym yn gwybod y bydd y gwasanaeth yn denu a chyrraedd gwylwyr newydd, ynghyd â’r bobl sydd eisiau’n gwylio ein rhaglenni chwaraeon poblogaidd. Clwb fydd y lle i fynd ar gyfer yr holl gyffro o’r meysydd chwarae bnawn Sul.”
Nid llais yr arbenigwyr yn unig fydd yn cael ei glywed yn trin a thrafod chwaraeon y dydd ar Clwb. Fe fydd barn y cefnogwyr yn cael lle teilwng wrth i sylwadau trydar a negeseuon testun gael eu crynhoi.
Bydd Dylan yn croesawu gwesteion amrywiol i’r stiwdio yng Nghaernarfon i drafod y pynciau, campau, timau, y perfformwyr a’r chwaraewyr y mae pobl Cymru yn eu caru a’u casáu, eu cefnogi a’u herio.
Fe fydd gwefan newydd chwaraeon S4C, s4c.co.uk yn ategu’r gwasanaeth.