30 Ionawr 2014
Mae S4C nawr ar gael ar YouView; gwasanaeth teledu ar alw.
O heddiw ymlaen (30/01/2014), bydd holl gynnwys Sianel genedlaethol Cymru ar gael ar YouView, gan ganiatáu i gwsmeriaid ar draws y DU wylio rhaglenni S4C ar-alw am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol.
Mae YouView yn wasanaeth teledu ar-alw gyda dros 70 o sianeli teledu a radio digidol byw sydd ar gael am ddim. Mae'n cyfuno gwasanaethau gwylio nôl fel BBC iPlayer, ITV Player, 4oD a Demand 5 yn ogystal â llyfrgell o raglenni teledu, ffilmiau a radio sydd ar gael i'w gwylio ar-alw.
Mae cwsmeriaid YouView yng Nghymru eisoes yn gallu gwylio rhaglenni S4C yn fyw, ond o heddiw ymlaen bydd cwsmeriaid ledled y DU yn gallu gwylio amrywiaeth eang o raglenni S4C sydd ar gael ar-alw.
Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae lansio app newydd S4C ar YouView yn gam sylweddol sy'n gosod y sianel ochr yn ochr â phrif sianeli eraill y DU. Ein nod yw ehangu'r dulliau mae modd gwylio S4C a'i gwneud hi'n haws nag erioed i wylio ein rhaglenni. 'Ry ni'n gwybod bod dulliau ac arferion gwylio wedi newid yn sylweddol ac yn parhau i esblygu o hyd, a'r her i ni yw ymateb i'r newidiadau drwy wrando ar ein cynulleidfa."
Dywedodd David Dorans, Prif Swyddog Ariannol YouView, "Mae'n wych gweld YouView yn cynnig rhaglenni teledu Cymraeg i gwsmeriaid ledled y DU ar y gwasanaeth ar-alw newydd hwn. Rydym yn falch o fod yn darparu gwasanaeth teledu sy'n hawdd i'w ddefnyddio ac sydd â dewis da o raglenni i'n cwsmeriaid, ac mae ychwanegu S4C at y rhestr yn gwneud YouView yn fwy atyniadol fyth i gwsmeriaid y DU."
Ym mis Awst 2013, fe gyhoeddodd Ian Jones y bydd S4C ar gael ar nifer o blatfformau digidol newydd. YouView oedd un o'r llwyfannau hynny, ynghyd â gwefan TVCatchup, gwasanaeth BBC iPlayer a YouTube.
Diwedd
Nodiadau:
Mae cwsmeiriad YouView yng Nghymru eisoes yn gallu gwylio S4C yn fyw.
Bydd y gwasanaeth ar-alw ar gael ar ledled y DU.
Ni fydd modd gwylio S4C yn fyw tu allan i Gymru ar YouView.
Darllenwch gyhoeddiad Ian Jones ym mis Awst, 2013 yma - http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=819
Gwybodaeth am YouView
Mae YouView yn wasanaeth teledu ar-alw gyda dros 70 o sianeli teledu a radio digidol byw sydd ar gael am ddim. Mae'n cyfuno gwasanaeth gwylio nôl saith diwrnod y BBC iPlayer, ITV Player, 4oD a Demand 5 yn ogystal â llyfrgell o raglenni teledu, ffilmiau a radio sydd ar gael i'w gwylio ar-alw. Mae amrywiaeth o gynnwys safonol ar gael ar-alw o Dave imagined by UKTV, Now TV, Sky Store, milkshake! a STV. Ar YouView mae modd recordio, stopio a weindio rhaglenni yn ôl, yn ogystal â chwilio am raglenni yn y ffordd arferol.
Cynigir YouView fel rhan o fwndel tanysgrifiad band eang gan TalkTalk a BT. Mae modd ei brynu heb danysgrifiad hefyd o siopau manwerthu mawr a nifer o siopau trydanol annibynnol gan gynnwys John Lewis, Currys, Argos, Tesco, Amazon, Richer Sounds a Euronics.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.youview.com, ar Twitter @YouView a Facebook ar facebook.com/youview.