Gêm yr Adar Gleision yn erbyn VfL Wolfsburg ar S4C
01 Awst 2014
Bydd S4C yn darlledu'r gêm gyfeillgar rhwng Caerdydd a chewri’r Bundesliga VfL Wolfsburg yn fyw ddydd Sadwrn, 2 Awst.
Bydd y gêm yn cael ei gwedarlledu’n fyw brynhawn Sadwrn (cic gyntaf, 3.00pm) ar wefan S4C, s4c.co.uk ac yna’n cael ei dangos yn gyfan eto am 9.00pm ar S4C.
Tîm sioe bêl-droed S4C Sgorio fydd yn cyflwyno’r arlwy, gyda Dylan Ebenezer, Osian Roberts a Malcolm Allen yn trafod a dadansoddi.
Bydd gêm Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn baratoad delfrydol ar gyfer yr ymgyrch Pencampwriaeth 2014/15 Sky Bet sy'n dechrau'r penwythnos canlynol.
Fe wnaeth Wolfsburg, o dan reolaeth yr hyfforddwr Dieter Hecking, orffen yn bumed yn y Bundesliga y tymor diwethaf ac maen nhw’n cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor hwn.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, "Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn dangos gêm fyw rhwng un o glybiau pêl-droed mwyaf ein gwlad ac un o dimau mawr pêl-droed y cyfandir. Mae hyn, ynghyd â’n cyhoeddiad diweddar am ein rhaglen chwaraeon newydd ar y Sul, Clwb, yn dangos ein bod am anelu at ddarlledu pêl-droed byw o'r ansawdd uchaf pryd bynnag y bydd hawliau'n caniatáu inni wneud hynny."
Mae cyn-chwaraewr Cymru a Newcastle Malcolm Allen yn edrych ymlaen yn arw at y gêm gyfeillgar ddifyr hon.
Meddai Malcolm Allen, "Mae chwarae Wolfsburg yn brawf anferth i dîm Ole Gunnar Solskjaer. Mae angen iddyn nhw roi neges i weddill y Bencampwriaeth eu bod yn un o’r ceffylau blaen ar gyfer dyrchafiad y tymor hwn ac y gallan nhw daro 'nôl ar ôl yr ymgyrch siomedig yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf. Maen nhw wedi arwyddo chwaraewyr o safon uchel sydd wedi profi eu hunain yn y Bencampwriaeth, yn enwedig yn ymosodol, ond mae’n rhaid iddyn nhw brofi hynny ar y cae rŵan."
Sgorio: Caerdydd v Wolfsburg - Dydd Sadwrn 2 Awst. Yn fyw ar y we, 3.00pm ac ar S4C, y gêm gyfan, am 9.00pm. (Mae sylwebaeth Saesneg ar gael)
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?