‘Dydd Sul disglair' ar S4C wrth i Clwb ddarlledu gêm gwpan FA Wrecsam v Woking yn fyw
31 Hydref 2014
Bydd S4C yn darlledu gêm rownd gyntaf Cwpan yr FA rhwng Wrecsam a Woking yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y sianel ddydd Sul 9 Tachwedd fel rhan o becyn prynhawn o bêl-droed pwerus.
Bydd y sioe chwaraeon brynhawn Sul Clwb ar y Cae Ras Wrecsam ar gyfer y gêm gyfan, gyda'r gic gyntaf am 2.00pm a’r rhaglen yn dechrau am 1.50pm.
Bydd tîm Sgorio hefyd yn darlledu gem Cei Connah v Prestatyn o Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports a chwaraeir yn gynt yn y dydd yn gyfan am 4.00pm.
Tîm rhaglen Sgorio fydd yn gyfrifol am ddarllediad gêm Wrecsam a fydd yn cael ei dangos yn fyw ar yr un pryd ar wefan S4C - s4c.co.uk - sydd ar gael ar-lein ledled y DU. Fe fydd y gêm ar gael ar alw ar-lein am 30 diwrnod.
Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4 a Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru. Tu allan i Gymru, mae ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gall gwylwyr ledled y DU hefyd wylio S4C ar tvcatchup.com a TVPlayer.com.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C,
“Mae’n newyddion gwych i gefnogwyr pêl-droed ledled y DU, a hithau’n gem atyniadol rhwng dau dîm yn y Vanarama Conference. Rydym yn dangos uchafbwyntiau gemau Wrecsam yn rheolaidd ar Clwb ac mae dangos y gêm hon yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddarlledu pêl-droed clybiau Cymru pan fo hawliau'n caniatáu. "
Mae clwb pêl-droed Wrecsam â thraddodiad glew yng nghystadleuaeth y Cwpan FA, a byddan nhw’n gobeithio dathlu eu pen-blwydd diweddar yn 150 oed mewn steil o dan arweiniad y rheolwr newydd Kevin Wilkin.
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?