Enwebiadau i Y Gwyll mewn gwobrau drama rhyngwladol
14 Tachwedd 2014
Mae'r ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland, a'r ymgyrchoedd marchnata sy'n gysylltiedig â'r gyfres gyntaf, wedi derbyn tri enwebiad yng Ngwobrau Drama Ryngwladol C21 Media.
Yn eu plith, mae enwebiad i dîm cyfathrebu a hyrwyddo S4C am y gwaith o godi ymwybyddiaeth am y gyfres cyn darllediad cyntaf y gyfres gyntaf ar S4C yn ystod hydref 2013.
Mae'r enwebiad am wobr yr 'Ymgyrch orau wrth farchnata cyfres ddrama i ddefnyddwyr' yn cydnabod llwyddiant yr ymgyrchoedd hysbysebu a'r gwaith o ddenu sylw i'r gyfres yn y cyfryngau a gwasanaethau newyddion, yn ogystal ag ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r gyfres, sy'n gynhyrchiad gan Fiction Factory mewn cydweithrediad ag S4C, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd, hefyd wedi ei henwebu am wobr y 'Ddrama Orau sydd ddim drwy gyfrwng y Saesneg'.
Y tri enwebiad yw:
• Ymgyrch orau wrth farchnata cyfres ddrama i ddefnyddwyr
• Drama orau sydd ddim drwy gyfrwng y Saesneg (cyfres)
• Ymgyrch fasnach orau wrth farchnata cyfres ddrama
Mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Iau, 20 Tachwedd.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth ryngwladol yma. Mae'r ffaith fod Y Gwyll/Hinterland wedi ei chynnwys ymhlith rhestr fer mewn tri chategori gan Wobrau Drama Rhyngwladol C21 Media yn adlewyrchiad o safon y gyfres afaelgar hon, a'r gwaith caled a'r creadigrwydd aeth i sicrhau ei lwyddiant.
"Llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan o'r prosiect, wrth i ni edrych ymlaen at y bennod gyffrous nesa’ o Y Gwyll/Hinterland ar S4C ar Ddydd Calan."
Wrth edrych ymlaen at ddangos pennod newydd arbennig Y Gwyll/Hinterland ar S4C ar Ddydd Calan, mae'r sianel yn cynnig cyfle arall i wylio'r gyfres gyntaf yn ei chyfanrwydd.
Bob nos Sul am 10.00, mae cyfle arall i ddilyn y cyffro a magu blys am ragor cyn i DCI Tom Mathias a'i dîm ddychwelyd i S4C ar 1 Ionawr 2015. Gallwch hefyd wylio'r penodau ar-lein, ar alw ar S4C Clic.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?