Mae S4C wedi bod yn brysur yn addurno ward blant Ysbyty Maelor Wrecsam gyda chymeriadau poblogaidd Cyw, Gwasanaeth Plant y Sianel.
Mae’r ward bellach wedi’i haddurno’n llachar, gyda’r cymeriadau wedi’u gosod mewn golygfeydd gwahanol, mewn ffair, ar draeth ac ar y fferm.
Dywedodd Emma Cunnah-Newell, Arbenigwraig Chwarae'r Ysbyty, ei bod hi wrth ei bodd gyda’r coridorau lliwgar newydd.
“Mae hi wedi bod yn grêt i dderbyn cefnogaeth S4C ac rydym wrth ein bodd i gael cymaint o waliau addurnedig o amgylch ein hysbyty gan gynnwys y ward plant a’r ward damweiniau ac argyfwng. Mae'r addurniadau wedi bywiogi ardaloedd o'n hysbyty a'u gwneud yn fwy deiniadol i blant, a hynny mewn sefyllfa all godi ofn ar blentyn."
Dechreuodd y gwaith fel rhan o gynllun S4C y llynedd, gyda’r amcan o addurno wardiau plant ledled Cymru.
Ward plant Ysbyty Gwynedd, Bangor oedd y cyntaf i dderbyn triniaeth Cyw ym mis Rhagfyr y llynedd, a gweddnewidiwyd Canolfan Plant Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ym mis Mawrth eleni. Ac wythnos diwethaf tro ward blant Ysbyty Athrofaol Caerdydd oedd hi i gael ei haddurno.
A dydy’r gwaith ddim yn gorffen eto; dros y misoedd nesaf bydd S4C yn teithio i ysbytai eraill ar draws Cymru i’w haddurno gyda chymeriadau adnabyddus a lliwiau llachar.
Mae Jane Felix Richards, Pennaeth Hyrwyddo a Marchnata S4C, yn gobeithio y bydd y cynllun yn parhau i godi ysbryd plant Cymru wrth iddyn nhw gael triniaeth mewn ysbytai.
"Drwy addurno ysbytai, rydym yn gobeithio ein bod yn gymorth i blant, gan eu sicrhau nad yw treulio amser mewn ysbyty’n brofiad annifyr,” meddai Jane,
"Rydym yn gwybod fod staff ysbytai ar draws Cymru yn gweithio’n galed bob dydd i godi ysbryd plant Cymru wrth iddyn nhw gael eu triniaeth, ac os bydd lliw a hwyl Cyw a’i ffrindiau’n gallu bod o gymorth yn y gwaith yna, fe fydd y cynllun yma wedi llwyddo."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?