Mae hoff gystadleuaeth canu'r genedl yn ei hôl! Ac ar 7 Mawrth 2015, bydd wyth cân yn cystadlu am deitl Cân i Gymru ynghyd â gwobr o £3,500. Bydd yr enillydd hefyd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd.
Yn dilyn llwyddiant Barry a Mirain Evans y llynedd gyda'r gân 'Galw Amdanat Ti', mae'n amser i gystadleuwyr newydd gamu i'r sbotolau ym Mhafiliwn Môn yng Ngwalchmai.
Bydd fformat newydd i'r rhaglen eleni gyda phedwar ffigwr adnabyddus o fyd y gân yn mentora'r cystadleuwyr wrth iddyn nhw recordio eu caneuon yn y stiwdio. Bydd enwau’r bobl yma’n cael eu datgelu cyn hir.
Meddai Elin Fflur, cyn enillydd y gystadleuaeth a chyflwynydd Cân i Gymru 2015, "Pleser a braint yw cael cyflwyno eto eleni. Mae'r safon yn uchel iawn bob blwyddyn a dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael clywed y caneuon a gweld y cantorion yn perfformio.
"Roedd ennill y gystadleuaeth yn brofiad gwefreiddiol ond roedd y nerfau'n dynn iawn ar y noson hefyd, felly dwi'n gwybod sut mae'r cystadleuwyr yn teimlo."
Dyma'r 46ed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Margaret Williams, Bryn Fôn, Ryland Teifi ac Iwcs a Doyle.
Felly os ydych chi'n aelod o fand, yn gyfansoddwr neu'n ganwr, mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb dros 16 oed a'r dyddiad cau yw Dydd Gwener, 16 Ionawr 2015. Gallwch ddarllen y rheolau llawn a lawrlwytho ffurflen gais drwy ymweld â s4c.co.uk/canigymru.
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?