Gemau byw Uwch Gynghrair Pêl-droed Cymru yn symud i nos Sadwrn
14 Mai 2015
Bydd rhaglen bêl-droed S4C Sgorio yn darlledu gemau Uwch Gynghrair Pêl-droed Cymru yn fyw yn gynnar ar nos Sadwrn o dymor nesaf ymlaen.
Yn dilyn trafodaethau gydag Uwch Gynghrair Cymru, bydd gêm fyw Sgorio yn awr yn dechrau am 5.15 brynhawn Sadwrn.
Bydd y rhaglen bêl-droed, sy'n cynnwys gemau byw o Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru a'r Cwpan Word, yn darlledu ar nosweithiau Sadwrn o 22 Awst yn nhymor 2015/16.
Bydd Sgorio yn dechrau am 4.45 y prynhawn, gyda newyddion chwaraeon y dydd a gwasanaeth canlyniadau a rhagolwg o’r gêm.
Bydd rhaglen uchafbwyntiau Sgorio sy'n cynnwys cynghrair La Liga Sbaen yn ogystal â gemau Uwch Gynghrair Cymru a chwpanau Cymru, yn parhau am 6.30 nosweithiau Llun.
Meddai Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler, "Mae S4C yn falch iawn o allu cefnogi pêl-droed Cymru. Rydym wedi gweithio’n agos gyda'r Gymdeithas Bêl-droed ac Uwch Gynghrair Cymru i ddatblygu'r ddarpariaeth ar gyfer y gystadleuaeth wych hon ac rydym yn edrych ymlaen at osod ein pencampwriaeth bêl-droed genedlaethol wrth wraidd amserlen nos Sadwrn y sianel. Mae rhoi llwyfan cenedlaethol teilwng i bêl-droed Cymru yng nghartrefi pobl Cymru yn cyfrannu at lwyddiant y gêm yn y dyfodol, yn ogystal â chynnig adloniant pwysig fel rhan o'r amrywiaeth o raglenni ar S4C."
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford, "Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn croesawu'r datblygiad diweddaraf hwn ac yn credu y bydd yn hybu proffil ein Cynghrair Cenedlaethol ymhellach. Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C am eu cefnogaeth selog i bêl-droed domestig yng Nghymru ac rydym yn hyderus y bydd y slot nos Sadwrn newydd yn denu cefnogwyr newydd i wylio Uwch Gynghrair Cymru."
Bydd trac sain Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch ar gyfer y gemau byw ar y botwm coch ar Sky, Freeview neu Virgin Media. Gall gwylwyr Freesat ddewis opsiwn o'r ddewislen sain.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gael.
Mae rhaglenni Sgorio yn cael eu cynhyrchu gan Rondo Media ar gyfer S4C. Mae Sgorio yn un o gyfresi mwyaf hirhoedlog S4C, a hithau wedi bod yn darlledu ers 1988. Mae'r cwmni wedi bod yn cynhyrchu darllediadau Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer S4C er 2008.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?