26 Awst 2015
Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wedi talu teyrnged i'r diweddar Geraint Stanley Jones a fu farw neithiwr.
Geraint Stanley Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1989 a 1994. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw bu'n gyfrifol am ddatblygu nifer o syniadau uchelgeisiol yn cynnwys Gemau Heb Ffiniau - Jeux Sans Frontieres a sefydlu'r gyfres gylchgrawn Heno. Ef oedd yn gyfrifol am gynnal digwyddiad Côr y Byd yn 1993 ac yn ystod ei gyfnod ef hefyd y cynhyrchwyd y ffilm Hedd Wyn a ddaeth a chlod enwebiad Oscar i S4C.
Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones oedd olynydd Geraint Stanley Jones i swydd Prif Weithredwr y sianel yn dilyn ei ymddeoliad yn 1994.
Meddai Huw Jones: "Roedd Geraint Stan, fel roedd pawb yn ei ‘nabod, yn un o ffigurau mawr y byd teledu Cymraeg. O fod yn Rheolwr arloesol ar BBC Cymru trwy gyfnod sefydlu S4C i fod yn un o brif reolwyr y BBC yn Llundain ar ddiwedd yr 80au, ac wedyn yn Brif Weithredwr S4C, gosododd ei farc ar bopeth a wnaeth. Roedd ganddo weledigaeth eang a rhyngwladol o le Cymru, ei diwylliant a’i systemau darlledu o fewn y byd. Yn S4C arloesodd gyda sefydlu Heno i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gyda chynyrchiadau animeiddio o safon ryngwladol. Dan ei arweiniad ef y daeth Hedd Wyn a chlod ac enwebiad Oscar i S4C.
"Roedd yn ffigwr amlwg uchel ei barch o fewn yr EBU (Undeb Darlledu Ewropeaidd) a gweithiodd yn galed i sicrhau fod safonau, egwyddorion a rhyddid darlledu cyhoeddus y gorllewin yn sail i rwydweithiau darlledu gwledydd y dwyrain yn dilyn dymchwel Wal Berlin.
"Roedd yn ddoeth ac yn gefnogol o’i staff, yn herio ac yn sbarduno, yn barod ei gyngor a hirben ei agwedd tuag at wleidyddion a beirniaid. Gwelwn ei golli’n aruthrol."
Bu Ian Jones, Prif Weithredwyr S4C, yn gweithio gyda Geraint Stanley Jones yn S4C ar ddechrau'r 1990au, ac yn ei gofio fel person oedd yn llawn syniadau.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:"Roedd yn fraint gweithio gyda Geraint Stanley Jones, mewn cyfnod cyffrous iawn i'r sianel ar ddechrau'r 1990au, gyda chyfresi fel Jeux Sans Frontieres a digwyddiad Côr y Byd. Yn sicr, fe wnaeth fy ysbrydoli i ar ddechrau fy swydd fel Prif Weithredwr S4C ac rwy'n ei gofio'n dweud nad oedd e'n berson oedd yn edrych ar y manylion, ond ei fod e'n berson syniadau. Ei gyngor oedd gwneud yn siŵr fod gen i ormod o syniadau yn y swydd. Mae'r geiriau hynny wedi aros gyda mi, ac rwy'n ddiolchgar am ei arweiniad."
Bydd rhaglen Heno ar S4C heno am 7.00 yn cynnwys teyrngedau gan gyfeillion a chyd-weithwyr fu'n agos ato. Ac mi fydd Newyddion 9 hefyd yn cynnwys teyrnged i cyn Prif Weithredwr S4C a Rheolwr BBC Cymru.
Diwedd