S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Taith rygbi S4C er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru

28 Awst 2015

Wrth baratoi ar gyfer darlledu cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015, bydd S4C yn mynd â chyn chwaraewyr rygbi Cymru ar daith arbennig er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru.

Yn dechrau ddydd Mercher 2 Medi, bydd y daith yn ymweld â phum clwb rygbi – Bethesda, Dolgellau, Aberaeron, Castell Newydd Emlyn a Glanaman – ac mi fydd y chwaraewyr lleol yn cael sesiwn hyfforddi arbennig yng nghwmni dau gyn chwaraewr rhyngwladol, sy'n aelodau o dîm rhaglenni Cwpan Rygbi'r Byd S4C.

Yn cynnal y sesiynau hyfforddi ar y daith bydd Gwyn Jones, Arthur Emyr, Shane Williams, Dwayne Peel, Dafydd Jones a Deiniol Jones.

Bydd hefyd noson o adloniant ar gyfer y gymuned, er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, gyda chyflwynydd rygbi S4C Gareth Roberts yn arwain sesiwn holi ac ateb, a chwis sy'n gyfle i ennill tocynnau Chwe Gwlad 2016.

Meddai Dennis Gethin, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, a Llywydd Undeb Rygbi Cymru; "Ry'n ni'n hapus ac yn ddiolchgar dros ben fod S4C yn gwneud y daith yma i godi ymwybyddiaeth ac arian er budd yr elusen. Mi fydd yn hwb i Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru sydd erbyn hyn yn cefnogi dros 30 o bobl, yn cynnwys dwy fenyw fu'n chwarae, a'u teuluoedd. Er eu bod nhw wedi cael anafiadau ar y cae rygbi, rhai yn ddifrifol, galla i ddweud gyda llaw ar fy nghalon nad oes neb yn cefnogi rygbi cymaint â nhw, ac mae pob un yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd."

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru yn 1972. Ei phrif nod yw cefnogi chwaraewyr, a'u teuluoedd, yng Nghymru sydd wedi derbyn anafiadau difrifol ar y cae rygbi.

Meddai Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler; "Mae S4C yn cefnogi rygbi yng Nghymru ar bob lefel, o'r gwreiddiau i'r tîm cenedlaethol, ac rydym yn falch iawn o gynnig gemau byw o Gwpan Rygbi'r Byd, prif ddigwyddiad y calendr rygbi. Bydd y daith hon yn mynd â ni i ganol cyffro'r cefnogwyr, wrth i ni edrych ymlaen at y gystadleuaeth a hefyd codi arian er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, elusen yr ydym yn falch iawn o'i chefnogi."

Bydd y digwyddiad cyntaf ym Methesda ar nos Fercher 2 Medi, yna Dolgellau ar nos Iau 3 Medi. Ar nos Fawrth, 8 Medi bydd y daith yn cyrraedd Aberaeron; yng Nghastell Newydd Emlyn ar nos Fercher, 9 Medi; ac yna diwedd y daith yng nghlwb Yr Aman ar nos Iau, 10 Medi. Mae'r nosweithiau adloniant ar agor i bawb ac yn dechrau am 7.15 yr hwyr gydag elw a chyfraniadau er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru.

Bydd rhaglenni S4C o Gwpan Rygbi'r Byd 2015 yn dechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Lloegr a Fiji ar 18 Medi, yna gêm gyntaf Cymru ar 20 Medi yn erbyn Uruguay. Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru yn fyw, a beth bynnag fydd eu hanes bydd S4C yn dangos un gêm o rownd yr wyth olaf, y pedwar olaf, y gêm efydd a'r Rownd Derfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn fyw.

Diwedd

Taith Cwpan Rygbi'r Byd S4C:

• Mercher 2 Medi – Bethesda - sesiwn hyfforddi gyda Dafydd Jones ac Arthur Emyr

• Iau 3 Medi – Dolgellau - Dafydd Jones a Gwyn Jones

• Mawrth 8 Medi – Aberaeron - Shane Williams a Deiniol Jones

• Mercher 9 Medi – Castell Newydd Emlyn - Dafydd Jones a Deiniol Jones

• Iau 10 Medi – Yr Aman - Dwayne Peel a Gwyn Jones

Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru

Mae mwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, a'u gwaith yn cefnogi chwaraewyr a'u teuluoedd yn dilyn anafiadau ar y cae rygbi, ar gael yma.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?